Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn hyrwyddo digwyddiadau 'Dweud eich Dweud' Fforwm Strategaeth 50+ y Fro.

  • Dydd Iau, 13 Mis Ebrill 2023

    Bro Morgannwg


 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog trigolion i fynd i ddigwyddiadau 'Dweud eich Dweud' Fforwm Strategaeth 50+ y Fro.

 

Mae'r Fforwm Strategaeth 50+ yn grŵp gweithredol o bobl sy'n gweithio o fewn y gymuned i gefnogi a hyrwyddo anghenion pobl sy’n 50+ oed.

 

Y nod yw sicrhau bod pobl hŷn ym Mro Morgannwg yn cael dweud eu dweud o ran y gwasanaethau a’r strategaethau sy’n cael eu datblygu.

 

Eleni, mae'r Fforwm yn cynnal tri digwyddiad 'Dweud eich Dweud' sy'n agored i'r cyhoedd, gan roi cyfle gwych i'r aelodau ddod at ei gilydd a dysgu am heriau a meysydd pwnc penodol wrth ymgysylltu â'r gymuned ehangach.

 

Mae’r digwyddiadau’n gymdeithasol iawn a darperir lluniaeth am ddim os ydych dim ond eisiau dod i gael paned a sgwrs. 

 

Cynhelir y digwyddiad nesaf yng Nghanolfan Gymunedol Penarth Isaf, Brockhill Way ar ddydd Iau 18 Mai rhwng 2 a 4pm.

 

Ac yna cynhelir trydydd digwyddiad y flwyddyn ynCF61,Station Road, Llanilltud Fawr, CF61 1ST ar ddydd Iau 13 Gorffennaf rhwng 2 a 4pm. 

 

Mae'r Fforwm Strategaeth 50+ wedi bodoli ers 20 mlynedd, mae ganddo dros 280 o aelodau, ac mae'n trafod materion pwysig fel iechyd, tai, trafnidiaeth, hamdden, a mwy yn rheolaidd.

 

Mae manteision ymuno â'r Fforwm yn cynnwys sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a chael dweud eich dweud ar faterion sy'n effeithio arnoch yn ogystal â chael eich hysbysu am faterion lleol perthnasol ac ymuno â chymuned o bobl o’r un anian.

Dywedodd Cadeirydd y Grŵp Gweithredol, Anne-Marie Little:

"Mae'r Fforwm yn rhoi llais pwerus i anghenion pobl hŷn wrth lunio eu cymunedau er budd yr holl ddinasyddion yn lleol ac yn genedlaethol. 

 

"Mae croeso i bawb fynychu ein digwyddiadau 'Dweud eich Dweud' ac rydym bob amser yn chwilio am fwy o aelodau."

I gael mwy o wybodaeth ewch i'r wefan neu e-bostio OPF@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 700111.