Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn lansio Tîm Datblygu Cymunedol newydd

  • Dydd Mercher, 28 Mis Medi 2022

    Bro Morgannwg


 

 

Mae tîm newydd wedi ei sefydlu gan Gyngor Bro Morgannwg i gynorthwyo cymunedau gyda phrosiectau a chael gafael ar gyllid. 

 

Bydd y tîm Datblygu Cymunedol yn helpu cymunedau lleol i nodi eu blaenoriaethau, creu cynlluniau gweithredu, chwilio am gyllid a chynorthwyo gydag ymgynghoriadau.

 

Nod y tîm newydd yw adeiladu ar y gwaith gwych sydd wedi ei gyflawni fel rhan o raglen Cymunedau Gwledig Creadigol y Fro, sydd wedi dod i ben yn ddiweddar ar ôl 18 mlynedd.

 

Bydd gan y tîm yr un ymrwymiad i roi pobl a lleoedd yn gyntaf gyda phwyslais ar hwyluso, cyd-gynhyrchu, cydweithio ac arloesi. 

 

Cafodd y cyhoeddiad am y tîm newydd ei wneud mewn digwyddiad yng Nghastell Hensol ar ddydd Mawrth 27 Medi, wrth i gynrychiolwyr cymunedol o bob rhan o'r Fro ymuno â swyddogion y Cyngor i ddathlu ymroddiad, uchelgais a gwaith caled cymunedau'r Fro.

 

Rob Thomas Marcus Goldsworthy Phil Chappell Nicola Sumner-Smith Lauren Collins Cath Jones Arabella Calder Alec Shand

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Leoedd  Cynaliadwy: "Rydym wedi gweld enghreifftiau gwych heddiw o'r ffordd mae ein cymunedau gwledig wedi cydweithio gyda'r cyngor i gyflawni pethau gwych.

 

"Mae llawer o'r gwaith hwn wedi mynd yn ei flaen i ddylanwadu ar y ffordd rydyn ni'n gweithio yn y cyngor ac i helpu i lunio ein blaenoriaethau, a dyna pam mai un o'n prif amcanion yw 'gweithio gyda ac i'n cymunedau'.

 

Rydym wrth ein bodd y bydd y tîm newydd nawr yn gallu cefnogi ein cymunedau Trefol a mwyaf agored i niwed yn ogystal â'r rhai sydd dal mewn angen yn yr ardaloedd gwledig."