Cost of Living Support Icon

 

Gwaith cynnal a chadw i adeilad y Cymin

 

  • Dydd Gwener, 28 Mis Hydref 2022

    Bro Morgannwg


 

 

Mae gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud i adeilad y Cymin, sy’n eiddo i’r Cyngor, ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn adolygiad lefel uchel o gyflwr yr adeilad, nodwyd bod angen gwaith allweddol penodol i’r adeilad er mwyn sicrhau ei integriti hirdymor.

 

Bydd y gwaith hyn yn sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel ac yn dal dŵr a bydd yn cynnwys gwaith maen cyffredinol ac atgyweiriadau strwythurol.

 

Yn ogystal â hyn, bydd atgyweiriadau i waith coed hefyd yn cael eu gwneud, gan gynnwys byrddau ffasgau a soffit, nwyddau dŵr glaw newydd, atgyweiriadau i ffenestri dalennog ac atgyweirio ac ailaddurno mannau wedi'u rendro.

 

Y disgwyl yw y bydd gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd.

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:

 "Mae'r Cymin yn adeilad lleol eiconig i Benarth a Bro Morgannwg.

 

"Mae angen y gwaith yma yn dilyn adolygiad safonol o'r adeilad ac mae’n dangos ein hymrwymiad i’w ei gadw mewn cyflwr da fel y gall barhau i fod yn ased cymunedol i'r dyfodol."

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau awyr agored yn cael eu cynnal yn y Cymin yn rheolaidd.  Mae manylion am ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn y Cymin a Phafiliwn Pier Penarth i'w gweld ar y Dudalen gwe Digwyddiadau.