Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 04 Mis Hydref 2022
Bro Morgannwg
Mae'r datblygiad o’r enw Lôn y Felin Wynt yn cynnwys 19 o eiddo â dwy ystafell wely a phedwar o eiddo â thair ystafell wely, a fydd yn croesawu tenantiaid newydd yn fuan iawn.
Cyn iddynt gyrraedd, aeth Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, a’r Aelod Cabinet dros Dai’r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid, Margaret Wilkinson ar daith o amgylch y safle.
Mae'r eiddo wedi'u hadeiladu gan Pegasus Developments Ltd ar safle tir llwyd ger Ystâd Fasnachu'r Iwerydd.
Byddant yn rhoi hwb i stoc dai'r Cyngor ac yn helpu i ateb y galw sylweddol am lety o'r math hwn.
Daw hyn wedi i'r Cyngor gyflwyno datblygiad tebyg yn cynnwys 28 o gartrefi pwrpasol newydd yn Llys Llechwedd Jenner yn y Barri.
Mae cynllun i adeiladu 11 o gartrefi newydd yn Holm View yn y Barri, y mae pedwar ohonynt yn fyngalos wedi'u haddasu'n arbennig i fodloni anghenion aelod anabl o'r teulu, hefyd wedi’i gwblhau.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Mae'r angen am dai cyngoryn cynyddu felly mae'n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer hynny drwy gynnig eiddo o'r ansawdd orau. "Mae'r eiddo hyn yn cael eu hadeiladu i'r fanyleb uchaf a byddant yn creu cartrefi modern cyfforddus i deuluoedd. "Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau sydd â’r nod o roi hwb i’n stoc tai cymdeithasol a bodloni anghenion ein trigolion."
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Mae'r angen am dai cyngoryn cynyddu felly mae'n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer hynny drwy gynnig eiddo o'r ansawdd orau.
"Mae'r eiddo hyn yn cael eu hadeiladu i'r fanyleb uchaf a byddant yn creu cartrefi modern cyfforddus i deuluoedd.
"Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau sydd â’r nod o roi hwb i’n stoc tai cymdeithasol a bodloni anghenion ein trigolion."