Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 23 Mis Tachwedd 2022
Bro Morgannwg
Dyma nhw:
Bydd yr ymgynghoriad ar y CCB yn cael ei gynnal am saith wythnos, tan 8 Ionawr 2023.Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y Cyngor yn ceisio adborth ynghylch a yw'r amcanion hyn yn berthnasol o hyd. Yn ogystal â'r pedwar amcan allweddol, mae'r cynllun eleni yn manylu ar dair her y mae'r Cyngor yn teimlo eu bod yn flaenoriaeth ar gyfer y 12 mis nesaf.
Bydd y camau a restrir yn y cynllun yn cyfrannu at y broses o ymateb i'r heriau allweddol hyn yn ogystal â chyfrannu at yr amcanion cyffredinol.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, "Rydym yn gwybod y bydd y flwyddyn nesaf yn hynod heriol i ni i gyd, ond byddwn yn parhau i wynebu effeithiau'r argyfwng costau byw a’r pwysau sylweddol ar lawer o'n gwasanaethau ac yn parhau i ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Ni fydd unrhyw un o'r tasgau hyn yn hawdd, ond mae pob un ohonynt yn hynod bwysig os ydym am barhau i fodloni anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.”
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y CCB a dweud eich dweud yn https://cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/cynllun-cyflawni-blynyddol