Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 04 Mis Tachwedd 2022
Bro Morgannwg
Mae'r meinciau yn cynnwys dyluniad coffaol arbennig o filwyr a phabi coch, yn ogystal â phlac personol. Ariannodd y ddau gyngor fainc yr un, gyda Chyngor Bro Morgannwg hefyd yn talu am y gost gosod.
Dyluniwyd a chynhyrchwyd y meinciau gan gwmni David Ogilvie Engineering Limited, sydd wedi'i leoli yn yr Alban.
Ymunodd aelodau eraill o Gyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg â'r aelodau Cabinet y Cyng Mark Wilson a'r Cyng Margaret Wilkinson, a'r Hyrwyddwr Cyn-filwyr, y Cynghorydd Ian Buckley.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau, y Cynghorydd Mark Wilson: “Mae’r meinciau hyn yn ychwanegiad i’w groesawu i’r gerddi, sy’n cael eu mwynhau’n dawel gan gymaint o drigolion. Wrth i Ddydd y Cofio agosáu, mae’n bwysig inni ddathlu’r arwyr a frwydrodd dros ein gwlad a’n rhyddid. “Roedd yn anrhydedd i mi fynychu’r agoriad swyddogol heddiw a chefnogi’r fenter wych hon.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau, y Cynghorydd Mark Wilson: “Mae’r meinciau hyn yn ychwanegiad i’w groesawu i’r gerddi, sy’n cael eu mwynhau’n dawel gan gymaint o drigolion. Wrth i Ddydd y Cofio agosáu, mae’n bwysig inni ddathlu’r arwyr a frwydrodd dros ein gwlad a’n rhyddid.
“Roedd yn anrhydedd i mi fynychu’r agoriad swyddogol heddiw a chefnogi’r fenter wych hon.”