Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 17 Mis Mawrth 2022
Bro Morgannwg
O 11 Mawrth, bydd y Pafiliwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, o gyngherddau i ddarlithoedd, am hanes celf gyda phrisiau'n dechrau am ychydig dros £7.Cymerodd y Cyngor gyfrifoldeb dros weithredu’r adeilad y llynedd gan fynd ati i wneud amrywiaeth o welliannau i gryfhau ei rôl fel ased cymunedol.Yn ogystal â'r digwyddiadau hyn, mae'r Pafiliwn yn parhau i gynnal dangosiadau ffilm rheolaidd gan Snowcat Cinema: y ffilm nesaf i gael ei dangos fydd Parallel Mothers ar 10 Mawrth 2022.Mae Caffi Big Fresh a weithredir gan y Cyngor yn y Pafiliwn yn darparu bwyd a diod gwych o ffynonellau lleol, y gellir ei fwynhau ar lan y môr gyda golygfeydd hardd dros Fôr Hafren.Mae'r holl elw a gynhyrchir gan y Big Fresh Catering Company yn cael ei fuddsoddi yn ôl i ysgolion y Fro i wella'r gwasanaeth prydau bwyd a chefnogi mentrau eraill.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer: "Rwy'n falch o weld Pafiliwn Pier Penarth yn gweithredu unwaith eto. Mae'n adeilad poblogaidd iawn, wrth wraidd y dref i raddau helaeth. "Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymrwymedig i helpu i sicrhau bod y pafiliwn yn parhau i gael ei ddefnyddio gan y gymuned leol. "Mae'r Pafiliwn yn cynnal dosbarthiadau sy'n cael eu cynnal gan Gyrsiau'r Fro gan gynnwys amrywiaeth eang o bynciau, o ffotograffiaeth i ieithoedd. Yn ogystal â hyn mae gweithdai Gaeaf o Les ar ôl ysgol sy’n ymwneud â llais a pherfformiad."Mae'r Pafiliwn yn lle gwych ar gyfer arddangosfeydd a chyngherddau ac mae ganddo ystafell fwrdd i'w llogi ar gyfer busnesau lleol."
Mae tocynnau a gwybodaeth bellach ar gyfer pob digwyddiad yn y Pafiliwn i'w gweld ar Eventbrite.co.uk a www.facebook.com/penarthpavilion.