Cost of Living Support Icon

 

Mae gwaith ar y gweill i drawsnewid Pont Gladstone a Phont Cogan

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi comisiynu artist i drawsnewid dwy bont boblogaidd yn y Sir yn dirnodau bywiog a thrawiadol gyda murluniau wedi'u paentio â llaw.

 

  • Dydd Gwener, 18 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



Gan ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn bwriadu gwella llwybrau teithio llesol o amgylch y Fro gyda murluniau, nodweddion chwarae a llwybrau gweithgareddau.


Mae Pont Cogan a Phont Gladstone yn byrth i lwybrau teithio llesol presennol ym Marina Penarth a Glannau'r Barri. Mae'r pontydd wedi bod yn destun graffiti yn ddiweddar ac felly fe'u nodwyd yn dirnodau i'w gwella. 


Yn ystod camau cychwynnol y prosiect, cynhaliodd y dylunydd weithdy i gydweithio â thrigolion lleol i ddatblygu dyluniad lliwgar a deniadol sy'n apelio at y gymuned.


Mae'r dyluniadau terfynol yn ystyried yr hyn y mae'r Barri a Cogan yn ei olygu i'r gymuned ac ysbrydolwyd y siapiau a'r lliwiau a ddewiswyd gan dirnodau lleol a hanes y trefi.

Dwedodd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae'n wych gweld prosiect cydweithredol a fydd nid yn unig yn gwella'r ardal leol yn weledol ond a fydd hefyd yn adrodd stori am hanes lleol.


"Bydd y cynllun yn trawsnewid y pontydd yn dirnodau bywiog a deniadol, gan annog trigolion, gobeithio, i ddefnyddio'r llwybrau cerdded a’r llwybrau teithio llesol.


"Mae annog teithio llesol yn hanfodol o ran cyflawni nodau Prosiect Sero, sef ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd."