Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn uwchraddio goleuadau stryd ar Cliff Hill

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gosod bylbiau LED dros dro yn y goleuadau stryd ar hyd Cliff Hill ym Mhenarth tra bod eraill â dyluniad mwy traddodiadol yn cael eu cynhyrchu.

 

  • Dydd Mawrth, 01 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg

    Penarth



Mae nifer o oleuadau ar hyd y rhan boblogaidd hon o’r palmant sy'n rhoi mynediad i Esblanad Penarth yn ddiffygiol neu wedi eu difrodi felly mae angen rhoi mesurau eraill ar waith er diogelwch.


Yn y tymor byr, mae bwlb a llusern LED mwy generig wedi'u gosod nes bod rhai mwy arbenigol yn cael eu cynhyrchu a'u gosod i gyfateb i'r colofnau addurnedig presennol.

 

penarthlights

Bydd y bylbiau a'r llusernau pwrpasol yn efelychu dyluniad y llusernau presennol a dylent fod yn barod i'w gosod yn ystod y misoedd nesaf.

 

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rydym wedi dod o hyd i fylbiau a llusernau LED wedi'u cynllunio'n arbennig yn unol â golwg a theimlad y colofnau goleuadau penodol hyn.


"Fodd bynnag, bydd angen peth amser i gynhyrchu’r rhain ac efallai y bydd angen gwneud addasiadau i'r colofnau hefyd cyn iddynt gael eu gosod.


"Yn y cyfamser, mae bylbiau a llusernau LED safonol eraill eisoes wedi'u gosod ar y colofnau hyn i sicrhau bod yr ardal wedi'i goleuo'n ddigonol.


"Mae'r ffitiadau LED dros dro a pharhaol hyn yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd na bylbiau mwy traddodiadol. Mae eu defnyddio yn pwysleisio ymhellach ymrwymiad Prosiect Cim Carbon y Cyngor, sy'n anelu at wneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030."