Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn gosod goleuadau stryd newydd yn Llanilltud Fawr

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymateb i bryderon trigolion trwy osod rhan newydd o oleuadau stryd ar hyd Frampton Lane yn Llanilltud Fawr.

 

  • Dydd Gwener, 04 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



Frampton Streetlights

Sue Roscrow, sy'n byw yn y pentref, am gyflwyno goleuadau am resymau diogelwch i'r ardal a oedd heb ei goleuo gynt.


Teimlai Mrs Roscrow ei fod yn ardal lle gallai pobl fod yn anghyfforddus yn cerdded yn y tywyllwch.


Mae gan Frampton Lane system o oleuadau stryd eisoes rhwng cyffordd Llanmaes Road sy'n arwain at yr eiddo preswyl yn Heol Pentre'r Felin.


Mae hyn bellach wedi'i hestyn hyd at y llwybr cerdded preswyl ger Clos y Wiwer, gyda gwaith hefyd yn cynnwys creu croesfan ffordd newydd.


Mae'r goleuadau stryd yn cynnwys bylbiau LED, sy'n fwy ynni-effeithlon ac sy'n ecogyfeillgar.

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:

 

"Er nad ydym yn ymwybodol o unrhyw un sydd wedi cael problemau ar y rhan hon o Frampton Lane, rydym am i bawb yn ein cymunedau deimlo'n ddiogel pan fyddant allan ar ôl iddi dywyllu.


"Cododd Mrs Roscrow bryderon ac o ganlyniad rydym wedi ehangu’r ddarpariaeth goleuadau stryd yn yr ardal hon o Lanilltud Fawr.


"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb i hyder trigolion wrth gerdded yn y nos ac yn helpu i dawelu eu meddyliau bod Llanilltud Fawr yn lle hynod ddiogel i fyw ynddo.

 

"Bydd y goleuadau’n cael eu gosod gyda bylbiau LED, sy'n llawer gwell i'r blaned. Mae hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad Prosiect Sero, sy'n ceisio gwneud y Cyngor yn garbon niwtral erbyn 2030."