Y Cyngor a yr Fforwm 50+ yn codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hyn
Mae Cyngor Bro Morgannwg a Fforwm Strategaeth 50+ y Sir yn atgoffa pobl hŷn o’r hawliau ariannol sydd ar gael iddynt wrth i lawer gael trafferth gyda chostau byw cynyddol.
Mae chwyddiant yn cynyddu, tra bod prisiau ynni, tanwydd a bwyd wedi cynyddu i'r uchaf erioed yn ystod y misoedd diwethaf. Mae hyn yn golygu bod aelwydydd yn gwario llawer mwy nag yr oeddent yn flaenorol, gyda rhai pobl hŷn ar gyllidebau cyfyngedig yn cael eu taro caletaf.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae'r Cyngor a'r Fforwm yn hyrwyddo'r ffaith y gallai pobl dros 50 oed fod yn gymwys ar gyfer ystod o ostyngiadau a breintiau ariannol.
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o'r ffaith hon, felly mae hawliau o'r fath yn aml yn mynd heb eu hawlio. Dyma rai enghreifftiau o'r hawliau a gynigir:
• Credydau a hwb i’r pensiwn - budd i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sy'n codi incwm.
• Gostyngiad yn y Dreth Gyngor – gall hyn fod yn ostyngiad llwyr neu rannol yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
• Budd-dal tai – cymorth i helpu i dalu rhent.
• Lwfans gweini – ar gael i bobl hŷn y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i aros yn annibynnol gartref.
• Lwfans gofalwr – budd i'r rhai sy'n ymwneud â gofalu am rywun arall.
• Budd-daliadau Gwresogi – taliad tanwydd gaeaf i helpu i dalu biliau.
Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i amrywiaeth o bobl wrth i gost bywyd bob dydd gynyddu.
"Efallai bod pobl hŷn ymhlith y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y sefyllfa hon felly rydym am dynnu sylw pobl at nifer o hawliau ariannol sydd ar gael i’r grŵp hwn, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.
"Rydym yn cynnig gostyngiad yn y Dreth Gyngor mewn rhai achosion, er y gallai hefyd fod yn bosibl rhoi hwb i'ch pensiwn neu gael lwfans ychwanegol os ydych yn ofalwr. Mae llawer o wasanaethau eraill hefyd ar gael am ddim neu ar gyfradd ostyngol i'r rhai dros 50.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud pobl yn ymwybodol o beth yn union sydd ganddynt hawl iddo, felly does neb yn methu allan.”
Dywedodd Lynda Wallis, Cadeirydd Gweithredol Fforwm Strategaeth 50+ y Fro: "Mae yna filiynau o bunnoedd sydd heb eu hawlio gan bobl hŷn oherwydd nad ydyn nhw’n ymwybodol bod ganddyn nhw’r hawl i’w hawlio.
“Gyda chostau byw yn cynyddu, mae’n bwysig iawn bod pobl hŷn yn cael gwybod am yr arian ychwanegol sydd ar gael iddyn nhw.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Cyngor drwy ffonio 01446 709244. Mae Age Connects ar gael ar 02920 683682 ac Age Cymru ar 08000 223444.