Cost of Living Support Icon

 

Depo Rheilffordd y Barri i fod yn gartref i drenau ecogyfeillgar

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar brosiect gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn gweld fflyd o drenau ecogyfeillgar yn cael eu cartrefu yn Nepo Reilffordd y Barri.

 

  • Dydd Gwener, 18 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



Bydd tir cyfagos hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynllun, sy'n golygu storio cyflenwad newydd o drenau y gellir eu pweru gan fatri, disel neu gebl pŵer uwchben.


Bydd y trenau'n gweithredu ar wasanaethau Llinell Calon y Cymoedd, llwybrau a fydd yn cael eu huwchraddio'n sylweddol fel rhan o fuddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mhrosiect Metro De Cymru.


Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cytuno i brynu adeiladau a thir gan y Cyngor cyn i'r trenau newydd gyrraedd yr haf hwn.

Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:  "Mae'r Cyngor yn falch o fod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar y prosiect hwn, un a fydd yn trawsnewid Depo Rheilffordd y Barri a thir cyfagos yn gyfleuster pwysig ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd yr ardal hon.


"Bydd yn rhan allweddol o gynlluniau i foderneiddio gwasanaethau rheilffyrdd yn Ne Cymru ac yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd gan fod y trenau'n ecogyfeillgar.


"Mae cefnogi mentrau gwyrdd yn bwysig i'r Cyngor ac yn cyd-fynd â'n hymrwymiad Prosiect Sero, sy'n anelu at wneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030." 

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Ein bwriad yw caffael y tir hwn i sefydlu Depo Rheilffordd y Barri fel ased strategol pwysig. Bydd y depo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer ein fflyd drenau newydd sbon a fydd yn gwasanaethu rhwydwaith Cymru a'r Gororau."