Gerddi Cymin yn Dathlu Llwyddiant Peter Pan

Yn ddiweddar, bu'r Cymin yn gartref i gynhyrchiad theatr awyr agored llwyddiannus o Peter Pan.
Daeth pobl i’r lleoliad a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg i weld cynhyrchiad theatr llawn dop, a berfformiwyd gan Illyria.
Er bod Peter Pan wedi'i berfformio gan y grŵp ers 1997, y sioe hon oedd y cyntaf i gynnwys hedfan go iawn gan y cast.
Yn dilyn llwyddiant y perfformiad hwn bydd y Cymin yn cynnal nifer o ddigwyddiadau pellach yr haf hwn, gan ddechrau gyda The Priates of Penzance ar 25 Awst a Midsummer Night's Dream ar 2 Medi.
Yn ogystal â digwyddiadau sydd ar y gweill yng Ngerddi Cymin, mae Pafiliwn Pier Penarth, a reolir hefyd gan y Cyngor, hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau sydd ar y gweill, gan gynnwys Barb Jungr mewn cyngerdd ar 15 Gorffennaf, darlith gelf ar Henri Matisse ar 19 Gorffennaf a Catrin Finch mewn cyngerdd ar 24 Medi.
Y gobaith yw y bydd y digwyddiadau sydd ar y gweill yn y lleoliadau hyn yn helpu i weithredu a chryfhau rôl y Pier a'r Ardd fel asedau i'r gymuned ac yn dangos sut mae'r Cyngor yn dod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o ddefnyddio lleoliadau cymunedol pwysig ledled y Fro yn barhaus.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae'n wych weld Pafiliwn Pier Penarth a Gerddi Cymin yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol misoedd yr haf.
"Mae llwyddiant cynhyrchiad diweddar Peter Pan, a berfformiwyd gan Illyria, yn dangos gallu'r lleoliadau hyn i gynnal digwyddiadau rhagorol.
"Mae'r mannau hyn yn atyniadau pwysig iawn ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu'r cyfle i helpu i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu defnyddio gan y gymuned a chan ymwelwyr fel ei gilydd."
Gellir prynu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad sydd ar y gweill yn y ddau leoliad ar-lein drwy dudalen Eventbrite Pafiliwn Pier Penarth.