Cronfa Grant Cymunedau Cryf y Cyngor yn mynd dros £1 miliwn
Mae Cronfa Grant Cymunedau Cryf Cyngor Bro Morgannwg wedi dyfarnu grantiau o fwy na £1 filiwn ers ei lansio yn 2017
Heddiw cyflwynwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i Gabinet y Cyngor am y gronfa, sy'n helpu grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned gyda chynlluniau sydd o fudd i'w hardal leol.
Datgelodd fod grantiau gwerth cyfanswm o £1.15 miliwn wedi'u dyfarnu i 120 o brosiectau ledled y Sir ac y bydd y gronfa flynyddol hon, a fydd yn rhedeg tan 2025, yn ailagor ym mis Gorffennaf.
At ei gilydd, mae prosiectau gwerth cyfanswm o £3.6 miliwn wedi'u cwblhau hyd yn hyn, y mae pob un ohonynt yn cefnogi gweledigaeth y Cyngor o Gymunedau Cryf â Dyfodol Disglair.
Hwyluswyd hyn trwy gyfraniadau at y cynllun gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Sefydliad Waterloo.
Mae uchafswm grant o £25,000 ar gael ac nid oes isafswm.
Ymhlith y prosiectau a gefnogwyd mae gwaith uwchraddio cyfleusterau chwaraeon a chymunedol, prynu offer a thalu costau hyfforddiant i wirfoddolwyr.
Yn 2020, dyrannwyd £50,000 i Gronfa Arwyr y Fro, a aeth tuag at 23 o fentrau gyda'r nod o helpu'r rhai yr oedd y pandemig yn effeithio arnynt y gwaethaf.
Roedd yn gallu defnyddio cyllid yn gyflym ar gyfer grwpiau cymorth Covid-19, cyfarpar diogelu personol ar gyfer cartrefi gofal a chyfrifiaduron llechen wedi'u galluogi gan wi-fi, gan helpu i gadw pobl mewn cysylltiad yn ystod cyfnod pan oedd cynifer o bobl yn teimlo'n ynysig.
Canolbwyntir hefyd ar gefnogi mentrau sy'n cyd-fynd ag ymrwymiad Prosiect Sero'r Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Mae'r Cyngor yn falch o fod wedi cefnogi cynifer o fentrau gwerth chweil ers i'r Gronfa Grant Cymunedau Cryf ddechrau bum mlynedd yn ôl, gyda llawer mwy yn y broses o gael ei chwblhau.
"Roedd y cysyniad o helpu i gyflawni prosiectau cymunedol yn datblygu ystyr newydd yn ystod y pandemig pan ddaeth ardaloedd lleol at ei gilydd i gefnogi ei gilydd trwy gyfnod anodd pan oedd pobl yn aml yn unig.
"Ac, er bod llawer o gyfleusterau cymunedol wedi'u gorfodi i gau, roedd hyn hefyd yn cynnig cyfle i ddatblygu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf, ac rydym yn gweld llawer o'r rheini bellach yn dwyn ffrwyth.
"Wrth edrych ymlaen, bydd mwy o bwyslais ar fentrau gwyrdd, y rhai sy'n ategu Prosiect Sero, sef cynllun y Cyngor i leihau ein hallbwn carbon yn sylweddol."