Cost of Living Support Icon

 

Disgyblion y Fro yn ennill iPads fel rhan o gystadleuaeth etholiadau

 

  • Dydd Gwener, 08 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg



iPad 1Cynhaliodd Tîm Cofrestru Etholiadol Cyngor Bro Morgannwg gystadleuaeth yn annog disgyblion y Fro i gofrestru i bleidleisio. 


Cofrestrodd Lowri Yapp o Ysgol Westbourne a Samuel Lonney a Jasmine Eastman o Ysgol Gyfun St Cyres i bleidleisio eleni ac yna  cawsant eu cynnwys yn awtomatig yn y gystadleuaeth.


Gwnaethant dderbyn eu iPads ddydd Gwener 17 Mehefin. 


Nod yr ymgyrch yw annog mwy o bobl ifanc i gofrestru i bleidleisio. Ar hyn o bryd, mae gan Fro Morgannwg un o'r poblogaethau cofrestredig uchaf, sef 62.6% o bobl ifanc 16-18 oed.

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae hon yn fenter wych a sefydlwyd gan Dîm Cofrestru Etholiadol y Cyngor.

 

Nawr bod pobl ifanc 16 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau'r Senedd, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl ifanc yn cofrestru i leisio eu barn; dim ond pum munud y mae'n ei gymryd, a'r cyfan sydd ei angen arnoch yw eich rhif Yswiriant Gwladol. 

 

Cofrestrwch heddiw #dweudeichdweud"