Cyfle ar gyfer Marchnad Stryd, Canol Tref Y Barri
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr posibl am gyfle ar gyfer marchnad stryd ar Heol Holltwn, Y Barri.
Uchelgais y Cyngor yw gwneud Canol Tref y Barri yn fywiog, yn berthnasol ac yn hanfodol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Dylai'r farchnad ei hun fod yn amrywiol, gyda chynigion o ansawdd uchel i drigolion ac ymwelwyr.
Bydd gofyn i'r cynigydd llwyddiannus sefydlu, rheoli, gweithredu a thyfu apêl marchnad stryd gynaliadwy o ansawdd a allai gynnwys stondinau marchnad cyffredinol, ond sydd hefyd â phwyslais ar fwyd a naill ai nwyddau crefft, crefftwyr, hunan-gynhyrchu neu arbenigol.
Mae pandemig y coronafeirws wedi cyflymu newid strwythurol yng nghanol y dref, fel cau manwerthwyr cenedlaethol a changhennau banciau, a thueddiadau fel nifer yr ymwelwyr sy'n lleihau.
Er bod sawl siop annibynnol newydd wedi agor yn ystod y pandemig ac mae cyllid cyfalaf Trawsnewid Trefi wedi gwella'r strydlun i ryw raddau, mae yna waith i'w wneud o hyd i adfer canol y dref.
Mae'r Cyngor wedi nodi dwy ardal sy'n addas ar gyfer gweithgareddau marchnad stryd yng Nghanol Tref y Barri, sef Sgwâr y Brenin ac ardal i gerddwyr Heol Holltwn.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â David Williams cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau tendr, sef 12:00 hanner dydd 22 Awst 2022.