Cyngor yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost
Bu Cyngor Bro Morgannwg yn ymuno â phobl ar draws y byd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost.
Darllenodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Neil Moore y Datganiad o Ymrwymiad yn y Swyddfeydd Dinesig. Mae'r datganiad yn addo addysgu, cofio ac ymladd yn erbyn gwahaniaethu.
Darllenodd y Prif Weithredwr, Rob Thomas, y datganiad yn Gymraeg.
Roedd Oriel Gelf Ganolog y Cyngor hefyd yn gartref i arddangosfa gan y ffotograffydd a'r awdur Pwylaidd, Michal Iwanowski.
Ar ôl gweld darn o graffiti ar wal yng Nghaerdydd a oedd yn dweud 'Go Home' Polish', penderfynodd Iwanowski fynd ar daith yng nghanol Brexit, o'i gartref yng Nghymru i'w gartref genedigol yng Ngwlad Pwyl.
Gan gymryd 'un diwrnod' ar y tro, cerddodd Iwanowski am 105 diwrnod a chroesi 1200 milltir cyn cyrraedd ei gartref teuluol yng Ngwlad Pwyl.
Mae'r arddangosfa hon yn cofnodi taith Iwanowski a'r bobl y cyfarfu â nhw. Mae'n tynnu sylw at gymhlethdod ymddygiad dynol ac emosiynau fel goddefgarwch a derbyn. Mae hefyd yn archwilio pynciau fel gwrthdaro, mudo gorfodol a dadleoli. Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 12
Chwefror.
Bydd Pafiliwn Pier Penarth yn gartref i ‘Shtetl’ gan yr artist Nicola Tucker. Mae Shtetl, yn cyfeirio at gartref, tref fechan. Mae gwaith Nicola yn adlewyrchu uniongyrchedd ffoi o gartref i ddianc rhag rhyfel, hil-laddiad, a sefyllfaoedd eraill a achosir.
Bu Twnnel Hood Road a llochesi Gorllewinol a Dwyreiniol Ynys y Barri wedi'u goleuo mewn porffor, lliw coffa am y diwrnod.