Dirwyo dyn am dipio anghyfreithlon yn Lecwydd
Mae dyn wedi cael dirwy o £913 am achos o dipio anghyfreithlon ar Woodlands Lane, Lecwydd ger Penarth.
Roedd y troseddwr wedi methu â thalu'r hysbysiad cosb benodedig o £400 a gyflwynwyd yn y lle cyntaf gan swyddogion ymchwilio.

Yna cafodd ei alw i fynd i'r llys ond ni ddaeth i’r gwrandawiad. Cyhoeddwyd gwarant i’w arestio cyn y gwrandawiad yn y llys.
Mae'r troseddwr wedi pledio'n euog i'r drosedd ac wedi cyfaddef ei fod wedi tipio nifer o fagiau bin gwyrdd yn anghyfreithlon. Mae ei ddirwy bellach wedi'i chynyddu i £913.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymchwilio i adroddiadau o dipio anghyfreithlon ac mae ganddo nifer o fesurau i’w defnyddio i ddod â throseddwyr gerbron eu gwell. Mae'r rhain yn cynnwys camerâu teledu cylch cyfyng cudd, symudol, y gellir eu defnyddio yn y tywyllwch.
Mae trigolion Bro Morgannwg hefyd yn cyflwyno tystiolaeth teledu cylch cyfyng a dash gamerâu y gellir eu defnyddio i erlyn troseddwyr.
Yn dilyn ymchwiliadau Bro Morgannwg, mae'r llys wedi cyhoeddi sawl gwarant yn ddiweddar ar gyfer arestio pobl sydd wedi methu â mynychu gwŷs llys, ar ôl methu â thalu eu cosbau penodedig.
Mae cyngor Bro Morgannwg yn rhoi cosbau penodedig o £100-£400 yn rheolaidd am droseddau megis tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel, baw cŵn a rheoli gwastraff. Pan fydd troseddwyr yn methu â thalu'r gosb benodedig, bydd achos llys yn dilyn.
Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:
"Mae ein swyddogion gorfodi amgylcheddol yn gwneud gwaith gwych yn patrolio mannau poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon yn rheolaidd.
"Er mwyn iechyd a diogelwch pawb, mae gan bob un ohonom ddyletswydd gofal i sicrhau ein bod yn cael gwared â’n gwastraff yn gyfrifol. Mae tipio anghyfreithlon yn achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol.
"Mae'n bwysig cofio bod tipio anghyfreithlon yn drosedd ac felly gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal yn cyflawni trosedd o’r fath wynebu canlyniadau difrifol. Rydym yn ystyried y mater hwn o ddifrif."
Gall canlyniadau cael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon gynnwys cael Hysbysiad Cosb Benodedig, erlyniad, dirwyon o hyd at £50,000 neu hyd yn oed eich anfon i’r carchar.
Cyflwynwyd nifer o warantau i arestio yn dilyn ymchwiliadau i dipio anghyfreithlon gan y Cyngor.
Gellir hefyd roi gwybod am dipio anghyfreithlon ar wefan y Cyngor.