Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgell Penarth i lansio prosiect gofod gwneud.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wrthi’n cwblhau’r trefniadau i cyfleuster newydd yn Llyfrgell Penarth, yn barod i'w lansio yn ystod yr wythnosau nesaf.

  • Dydd Iau, 10 Mis Chwefror 2022

    Bro Morgannwg




Bydd y cyfleuster Gofod Gwneud yn cynnig lleoliad i ddefnyddwyr y llyfrgell ymgasglu, rhannu adnoddau a gweithio ar brosiectau.

Yn sgil cyllid gan y Cyngor bydd ystod newydd sbon o offer y gellir eu defnyddio ar gyfer dylunio a saernïo digidol. 

Bydd Llyfrgell Penarth hefyd yn cynnal sesiynau mewn argraffu 3D, torri laser, argraffu sychdarthiad a dylunio golygfaol a sain.

Bydd y rhain yn agored i unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau lleol.

Bydd y  Gofod Gwneud yn cynnwys offer fel cyfrifiaduron Apple Mac, argraffwyr 3D a meddalwedd wedi'i ddylunio'n ddigidol ar gyfer lluniau, fideos a cherddoriaeth.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett:

“Bydd y Gofod Gwneud yn Llyfrgell yn ein helpu i ddiwallu anghenion newidiol ein cymunedau trwy gynnig mynediad i dechnolegau newydd a hyrwyddo pwysigrwydd a defnydd llythrennedd digidol ar draws pob ystod oedran.

“Mae Llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn darparu mynediad i wybodaeth ac yn annog datblygiad llythrennedd, creadigrwydd, a lles a bydd y prosiect hwn yn cynyddu mynediad y gymuned at adnoddau, gan eu helpu i ddysgu a datblygu sgiliau digidol a chreadigol.

“Mae’r gwaith yn Llyfrgell Penarth yn cael ei ddarparu gyda chymorth cyllid Adran 106 a ddaw i’r Cyngor at ddefnydd y gymuned leol fel ardoll ar ddatblygiadau adeiladu ym Mhenarth. Mae prosiect Gofod Gwneud yn rhan o fenter gan Lywodraeth y DU i helpu dysgwyr canolradd ac uwch i ddatblygu eu sgiliau a’u creadigrwydd.”

 
I gael rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am y prosiect, ewch i lyfrgell Penarth a sianeli cyfryngau cymdeithasol Bro Morgannwg.