Cost of Living Support Icon

 

Mae'r gwaith i adnewyddu Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr wedi'i gwblhau

 

Fel rhan o fuddsoddiad o £600,000 gan Gyngor Bro Morgannwg i uwchraddio canolfannau hamdden ar draws y sir, mae safle Llanilltud Fawr wedi cael gweld adnewyddu yno’n ddiweddar.

 

  • Dydd Iau, 08 Mis Rhagfyr 2022

    Bro Morgannwg



Cllr Eddie Williams, Cllr Gwyn John and Leisure Centre manager, Gavin McCarthy using the gym equipmentDaw'r rhaglen adnewyddu ar raddfa eang wrth i'r Cyngor ymestyn ei bartneriaeth gyda Parkwood a Legacy Leisure yn gynharach eleni.


Ochr yn ochr â'r ailwampio, mae'r ganolfan bellach yn gallu brolio ystafell ddosbarth sbin, stiwdio ffitrwydd fawr ac offer campfa newydd.


Mae gwaith tebyg i uwchraddio safleoedd Legacy Leisure yn Y Barri, Penarth a'r Bont-faen yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.  

Dwedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant: "Roeddwn wrth fy modd yn gweld y cyfleusterau newydd yng Nghanolfan Hamdden Llanilltud Fawr.


"Mae'r safle wedi ei drawsnewid i fod yn lleoliad modern lle gall y gymuned fwynhau cadw'n heini a rhoi cynnig ar ddosbarthiadau ffitrwydd newydd.  


"Gobeithiaf weld llawer o aelodau presennol a newydd yn defnyddio'r cyfleuster newydd ac edrychaf ymlaen at ddatgelu gwaith uwchraddio tebyg ar draws y Fro yn 2023. 


"Da iawn i bawb fu’n rhan o’r gwaith!"