Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 20 Mis Rhagfyr 2022
Bro Morgannwg
Mae misoedd Tachwedd a Rhagfyr wedi bod yn rhai prysur eto i Faer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Susan Lloyd-Selby. Bu’n fraint ganddi nodi
Diwrnod y Cadoediad, i gofio'r rhai sydd wedi rhoi eu bywydau mewn gwasanaeth i'r wlad, a bod yn y saliwt gynnau Brenhinol lle ailddatganodd y Cyngor ei ymrwymiad i'r lluoedd Arfog trwy ail lofnodi cyfamod y lluoedd arfog.
Mae'r Maer wedi mwynhau mynd i nifer o wasanaethau carolau drwy gydol mis Rhagfyr, gan gynnwys rhai ar gyfer yr RNLI, St John's a'r gwasanaethau brys. Roedd hi hefyd yn falch iawn o fynychu pen-blwydd Car Llusg Siôn Corn Bwrdd Crwn y Barri, yn dathlu 50 mlynedd o ddod â llawenydd a chyffro'r Nadolig i blant yn y dref yn ogystal â chodi arian mawr ei angen ar gyfer elusennau a grwpiau lleol.
Hoffai'r Maer ddiolch i'r holl blant a wnaeth gystadlu yn y gystadleuaeth cerdyn Nadolig a llongyfarch yr enillydd: Lily Barnhouse; Blwyddyn 5 - Ysgol Gwaun y Nant
“I holl drigolion Bro Morgannwg: Boed i heddwch Duw fod yn eich calonnau a'ch cartrefi y tymor Nadolig hwn a thrwy gydol y Flwyddyn Newydd"
Os ydych yn cynllunio digwyddiad cymunedol yn 2023 ac yn dymuno gwahodd y Maer, cysylltwch â themayor@valeofglamorgan.gov.uk