Cannoedd o bobl yn dod i Ddiwrnod Agored Pafiliwn Pier Penarth
Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau llawn hwyl dros yr ŵyl, cynhaliodd Pafiliwn Pier Penarth, sy'n cael ei weithredu gan Gyngor Bro Morgannwg, ddiwrnod Agored am ddim ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr.
Gyda chefnogaeth Tîm Big Fresh y Cyngor, sy'n cynnal caffi'r Pafiliwn, roedd y diwrnod yn gyfle i'r gymuned grwydro'r lleoliad eiconig a chael gwybod am y digwyddiadau cyffrous sydd ar y gweill yn 2023.
Ymgynullodd dorf fawr ar y Pier i ganu carolau, dan arweiniad y bariton lleol Richard Parry, gyda cherddoriaeth gan Fand Byddin yr Iachawdwriaeth Penarth, ac yna diodydd poeth a mins peis am ddim y tu mewn i'r Pafiliwn.
Manteisiodd y tîm Big Fresh ar y cyfle hefyd i gyflwyno arian a godwyd o'u Digwyddiad Ysbryd Big Fresh 2022 i'r Uwchgapten Jo Walters o Fyddin yr Iachawdwriaeth Penarth.
Diolch i haelioni ei gyflenwyr, ABM, Argies, Ask Frank, Castell Howell, Chapple & Jenkins, a Dairy Link, a gyfrannodd wobrau ar gyfer y raffl, llwyddodd staff y Big Fresh a gwesteion i godi £450 yn nigwyddiad mis Tachwedd. Bydd yr arian yn helpu i ariannu gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth Penarth i gefnogi trigolion lleol sy’n agored i niwed.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: "Roeddwn i wrth fy modd yn gweld cymaint o drigolion ac ymwelwyr yn mwynhau'r dathliadau ar y diwrnod agored eleni.
"Diolch o galon i dimau'r Pafiliwn am gydlynu'r digwyddiad!
"Roedd y diwrnod yn amlygu'r rôl annatod sydd gan Bafiliwn Pier Penarth yn y gymuned, ac roedd yn hyfryd gweld y tîm Big Fresh yn chwarae eu rhan wrth gefnogi achos lleol gwych.