Cost of Living Support Icon

 

Golwg gyntaf ar ddyluniadau ar gyfer parc sglefrio newydd Traeth y Cnap

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sicrhau contract gyda'r darparwr parc sglefrio arbenigol, Bendcrete Leisure Ltd. i ddylunio ac adeiladu parc sglefrio newydd ger Traeth y Cnap, Y Barri. 

  • Dydd Llun, 22 Mis Awst 2022

    Bro Morgannwg



Cold Knap Skatepark Design (Perspective 2)Mewn partneriaeth â Chronfa Goffa Richard Taylor a Chwaraeon Cymru, sicrhawyd £330,000 ym mis Mawrth ar gyfer datblygu parc sglefrio concrid ffurf rydd pwrpasol newydd i ddisodli'r Parc Sglefrio Coffa Richard Taylor presennol.


Agorodd y cyfleuster presennol yn 2007 fel cofeb i Richard John Taylor, Pencampwr Sglefrio Prydeinig proffesiynol o'r Barri, wedi ei  ariannu gan elusen Cronfa Goffa Richard Taylor.  Ers hynny mae teulu Richard wedi gweithio'n agos gyda'r Cyngor ac yn rhanddeiliaid allweddol yn natblygiad pellach y parc. 

 

Cold Knap Skatepark Design (Perspective 3)Mae'r cynlluniau cychwynnol ar gyfer y cyfleuster newydd bellach wedi eu llunio ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, gan roi cyfle i drigolion weld y cynigion dylunio a chynnig eu barn er mwyn sicrhau bod y cyfleuster newydd yn diwallu anghenion y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Rwy'n falch iawn y bydd Parc Sglefrio Coffa Richard Taylor, sy'n boblogaidd iawn, yn cael ei ddisodli gan barc sglefrio newydd a chyffrous i'r gymuned ei fwynhau.


"Bydd y cyfleuster newydd yn adlewyrchu treftadaeth y parc ac yn parhau ag etifeddiaeth Richard i'r dyfodol.


"Rwy'n gobeithio y bydd y ddarpariaeth newydd unwaith eto yn ganolbwynt i'r gymuned sglefrio ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o sglefrwyr."