Arddangosfa Clwb Camera'r Barri yn Oriel Gelf Ganolog y Cyngor
Mae oriel gelf Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal Arddangosfa Ffotograffig 2022 Clwb Camera'r Barri.
Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio yn yr Oriel Gelf Ganolog gydag agoriad ddydd Sadwrn 20 Awst 2022 rhwng 11am ac 1pm lle bydd croeso i bawb. Bydd lluniaeth wedi'i gefnogi gan Gyfeillion yr Oriel Gelf Ganolog hefyd.
Mae’r aelodau o Glwb Camera'r Barri oll yn ffotograffwyr brwd a byddant yn dangos amrywiaeth o gorau eu gwaith.
Mae'r delweddau ffotograffig wedi’u dewis yn thematig gan y ffotograffwyr ac yn cynnwys delweddau yn ymwneud â diddordebau lleol, delweddau digidol, delweddau ffilm traddodiadol a delweddau ffantasi cyfansawdd.
Yn ogystal â'r ffotograffau ar ddangos, mae'r clwb wedi ffurfio partneriaeth gyda grŵp Celf Baruc sydd wedi dehongli rhai o ffotograffau’r aelodau, fel paentiadau, gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau.
Mae rhaglen flynyddol Clwb Camera’r Barri yn rhoi cyfleoedd i ddysgu sgiliau a thechnegau ffotograffig newydd gan yr aelodau.
Mae’r clwb, a sefydlwyd yn wreiddiol yn rhan o YMCA y Barri yn un o’r Clybiau Camera hynaf yng Nghymru. Bydd y grŵp hefyd yn dangos cyflwyniad addysgiadol am hanes y clwb camera.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Rydym wrth ein boddau'n cynnal Clwb Camera’r Barri ac yn gobeithio y bydd eu delweddau ffotograffig yn ysbrydoli ymwelwyr a'r rheiny sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth.
“Heddiw rydym yn defnyddio camerâu yn ein bywydau bob dydd, gan recordio a hyrwyddo ein profiadau’n gyson. Gall yr arddangosfa hon helpu i ysbrydoli ac addysgu ein cenedlaethau i ddod, gan eu hannog i ddefnyddio ffotograffiaeth naill ai fel hobi diddorol, fel offeryn addysgol neu i ddatblygu cyfle o ran gyrfa.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r arddangosfa yn ein horiel wych".
Mae clwb Camera'r Barri yn cyfarfod ar nos Wener yng Nghanolfan Mileniwm St Francis yn y Barri. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar ei wefan.
I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod yn yr Oriel Gelf Ganolog, ewch i wefan yr oriel.