Cost of Living Support Icon

 

Ymgyrch fawr y Cyngor ar gyfer priodasau awyr agored 

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Cofrestru Cyngor Bro Morgannwg yn hyrwyddo lleoliadau awyr agored dros gyfnod o fis. 

 

  • Dydd Iau, 21 Mis Ebrill 2022

    Bro Morgannwg



Ar 6 Ebrill newidiodd y gyfraith yng Nghymru a Lloegr i ganiatáu priodasau awyr agored a phartneriaethau sifil mewn lleoliadau trwyddedig.
West Farm 1
St Donats Castle - Inner Courtyard 1Wedi'i gyflwyno i ddechrau ym mis Gorffennaf 2021 fel newid dros dro oherwydd Covid-19, mae hyn bellach wedi'i gyflwyno'n barhaol, yn bennaf oherwydd cefnogaeth ysgubol gan y cyhoedd, grwpiau ffydd a'r diwydiant priodasau. 

Mae gan y Fro, oherwydd harddwch ei hamgylchedd naturiol, nifer fawr o leoliadau ar gyfer priodasau awyr agored a phartneriaethau sifil. 

Mae Gwasanaeth Cofrestru'r Cyngor, Eich Seremoni yn y Fro, yn treulio mis Ebrill yn hyrwyddo'r amrywiaeth o fannau awyr agored sydd ar gael i'w llogi ar draws y Sir.

Mae hyn yn cynnwys safleoedd poblogaidd yn Llanilltud Fawr, Penarth, y Barri, y Bont-faen, Cosmeston a llawer mwy. 

Mae caniatâd newydd bellach wedi'i gymeradwyo i ganiatáu seremonïau priodas a phartneriaeth sifil yn y cytiau traeth ar Ynys y Barri.  Mae llogi cwt traeth ar gyfer priodas yn £750 sy'n cynnwys dau gwt ochr yn ochr drwy gydol y seremoni.

Daw hyn wedi dadorchuddio gwefan newydd sbon yn llwyddiannus sy'n cynnwys 'Porth Seremoni' ar-lein sy'n eich galluogi i gofrestru, personoli a chael rhagolwg o'r seremoni ar-lein drwy ddewis a diwygio nodweddion fel addunedau a cherddi. 

Mae'r wefan yn caniatáu i chi weld rhestr o leoliadau dan sylw, cyflenwyr cymeradwy a hyd yn oed dalu am eich cofrestriad ar-lein. 

Yn ogystal â'r hyrwyddiad ar-lein drwy'r cyfryngau cymdeithasol, bydd staff o'r Gwasanaeth Cofrestru yn y Cytiau Traeth yn y Barri rhwng 22 a 24 Ebrill i roi gwybodaeth, ateb cwestiynau a chymryd archebion.


Dywedodd Rachel Protheroe, Rheolwr Gwasanaeth Cofrestru a Chofrestrydd Arolygol: "Priodasau a Phartneriaethau Sifil yw rhai o'r digwyddiadau mwyaf pwysig a chofiadwy ym mywyd unigolyn ac mae hwn yn newid i'w groesawu a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i gyplau.

"Mae gan y Fro fannau awyr agored gwych ac mae'n cynnig lleoliadau unigryw i gynnal y digwyddiadau hyn, o adeiladau hanesyddol, gerddi a hyd yn oed ar lan y môr."

I gael y newyddion diweddaraf gan Eich Seremoni yn y Fro a gweld lleoliadau posibl ewch i Your Vale Ceremony neu chwiliwch am Yourvaleceremony ar Instagram.