Cost of Living Support Icon

 

Lansiad Llwybr Hel Clecs yn llwyddiant

Mae llwybr sain trochi a gomisiynwyd gan Gyngor Bro Morgannwg bellach wedi’i lansio ar Heol Holltwn yn y Barri yn dilyn digwyddiad agoriadol cofiadwy.

 

  • Dydd Mercher, 20 Mis Ebrill 2022

    Bro Morgannwg



Dathlodd y dref y lansiad drwy wisgo mwstashis ffug a gwisgoedd hanesyddol. Roedd rhai wedi gwisgo fel boneddigion a boneddigesau Fictoraidd, tra bod eraill yn chwarae rôl siopwyr a masnachwyr.

 

Gall ymwelwyr â Heol Holltwn a Thompson Street sganio codau QR unigryw mewn ffenestri siopau, ar feinciau a hyd yn oed mewn tacsis.  Mae'r straeon sain yn seiliedig ar straeon go iawn a adroddwyd ac a berfformiwyd gan gymuned y Barri, wedi’u gosod mewn gwahanol ddegawdau o'r 1890au hyd at 2020.

 

Maent yn defnyddio'r dechnoleg ddeuseiniol ddiweddaraf a gellir eu mwynhau yn y Gymraeg a'r Saesneg.  Bydd y prosiect yn rhedeg am 6 mis o fis Ebrill.


Mae Hel Clecs wedi cael ei ariannu drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.  Cynhaliwyd rhywfaint o'r ymchwil a gynhwyswyd yn y prosiect hwn fel rhan o Y Barri - Creu Tonnau, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy'r Cynllun Lle Gwych.

 

I gael rhagor o wybodaeth: barry.cymru/cy/helclecs