Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 02 Mis Medi 2021
Bro Morgannwg
Cynhaliwyd rhaglen gweithgareddau Haf o Hwyl drwy gydol gwyliau'r haf, gan ddarparu ystod o weithgareddau hamdden, chwarae, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc am ddim.
Cefnogwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel rhan o fenter i ailintegreiddio pobl ifanc mewn lleoliadau cymdeithasol a gweithgareddau. Drwy gydol mis Medi, bydd yr Oriel Gelf Ganolog yn arddangos gwaith a grëwyd fel rhan o'r gweithgareddau, yn ogystal â gwaith a gyflwynwyd yn annibynnol gan bobl ifanc ledled y Fro.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys colur y llwyfan, llyfrau cyngherddau a chelf graffiti.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'r haf hwn wedi bod yn llawn gweithgareddau i bobl ifanc. Mae wedi bod yn gyfle iddynt ymgysylltu a mwynhau wrth ddod i'r amlwg o gyfnod heriol iawn. "Roedd y rhaglen yn darparu pob math o gyfleoedd i bobl ifanc gysylltu â'i gilydd ac ymgolli mewn dysgu sgiliau newydd. "Rydym yn ffodus nawr o gael y profiad unigryw hwn wedi'i ddogfennu yn yr arddangosfa hon."
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'r haf hwn wedi bod yn llawn gweithgareddau i bobl ifanc. Mae wedi bod yn gyfle iddynt ymgysylltu a mwynhau wrth ddod i'r amlwg o gyfnod heriol iawn.
"Roedd y rhaglen yn darparu pob math o gyfleoedd i bobl ifanc gysylltu â'i gilydd ac ymgolli mewn dysgu sgiliau newydd.
"Rydym yn ffodus nawr o gael y profiad unigryw hwn wedi'i ddogfennu yn yr arddangosfa hon."
Bydd arddangosfa Haf o Hwyl yn rhedeg o ddydd Sadwrn, 11 Medi tan ddydd Sadwrn, 02 Hydref. Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.30am tan 4.30pm.
I gael gwybodaeth am Oriel Gelf Ganolog, ewch i'r wefan:
Oriel Gelf Ganolog