Cost of Living Support Icon

 

Cais Cynnig Gofal Plant y Fro ar agor o ddydd Gwener 29 Hydref

Gwahoddir rhieni sy'n gweithio ac sydd â phlant a anwyd rhwng 01 Medi 2021 a 31 Rhagfyr 2021 i wneud cais am gynnig gofal plant 30 awr Llywodraeth Cymru.

 

  • Dydd Llun, 25 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg



Ym Mro Morgannwg, gall y Cynnig Gofal Plant ariannu hyd at 17.5 awr yr wythnos o ofal plant yn ystod tymor yr ysgol. Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae’r ddarpariaeth yn cynyddu i 30 awr o ofal plant a ariennir, wedi’i ddyrannu ar dair wythnos fesul tymor.


Bydd yr ariannu’n cychwyn ar ddechrau’r tymor ym mis Ionawr 2022. Mae ar gael o'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn dair oed nes ei fod yn dechrau'r ysgol yn llawn-amser.


Gall rhieni ddefnyddio'r arian mewn unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd wedi cofrestru â’r Cynnig Gofal Plant, er enghraifft, mewn meithrinfa ddydd, gyda gwarchodwr plant neu gyda chylch chwarae.


Rhaid i rieni fod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac yn byw'n barhaol ym Mro Morgannwg. Os yw hyn mewn teulu dau riant, yna rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio, neu’r rhiant sengl mewn teulu un rhiant. Rhaid i rieni ennill o leiaf:


● £142.56 yr wythnos os ydych yn 23 oed neu'n hŷn
● £133.76 yr wythnos os ydych yn 21-22 oed neu'n hŷn
● £104.96 yr wythnos os ydych yn 18-20 oed neu'n hŷn


Bydd pob cais cyflawn a gyflwynir gyda’r holl dystiolaeth gywir erbyn 26 Tachwedd 2021, yn cael ei ateb erbyn 13 Rhagfyr 2021, gyda’r ariannu’n dechrau ar ddechrau Tymor y Gwanwyn.


Bydd ceisiadau anghyflawn sy’n dod i law rhwng 29 Hydref 2021 a 26 Tachwedd 2021 angen mwy o amser i’w prosesu. Bydd yn dal yn bosib i chi wneud cais ar ôl 26 Tachwedd 2021, ond ni ellir sicrhau y bydd y cyllid ar gael erbyn dechrau Tymor y Gwanwyn ac ni fydd modd ei ôl-ddyddio.


Mae manylion llawn am feini prawf cymhwysedd ac enillion ar gael ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.