Cost of Living Support Icon

 

Council publishes its Annual Report

Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn manylu ar ein cynnydd o ran cyflawni'r Amcanion Lles a nodir yn y Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer 2020/21. 

 

  • Dydd Mercher, 27 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg



Mae’n bwysig nodi bod ein hadolygiad blynyddol o’r cynnydd ar gyfer y cyfnod 2020/21 wedi’i ysgrifennu yn ystod cyfnod heriol a digyffelyb, lle mae’r Cyngor wedi gorfod ymateb i bandemig byd-eang. Er bod hyn wedi rhoi llawer o bwysau ar wasanaethau ac wedi tarfu’n sylweddol ar y ffordd y darperir rhai gwasanaethau, mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr i lywio’r argyfwng. 

 

Mae rhai o brif gyflawniadau’r adroddiad eleni yn cynnwys y canlynol:

  • Gwnaethom ddatblygu a chyhoeddi ein Cynllun Her Newid yn yr Hinsawdd 2021-2030 a datgan Argyfwng Natur, gan addo ein hymrwymiad i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a bioamrywiaeth wrth i ni weithio tuag at nod o 'ddim colled net o ran bioamrywiaeth’.
  • Trwy gydol y pandemig, mae'r Cyngor wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon yn sylweddol.  Ers 2018/19, rydym wedi cofnodi gostyngiad o 20.3% mewn allyriadau tra bod allyriadau sy'n gysylltiedig â'n hadeiladau wedi gostwng 21.4%.
  • Mae'r prosiect gwerth £9m i droi hen adeilad Sied Nwyddau rheilffordd a thir cyfagos yn Hood Road, Glannau'r Barri wedi'i gwblhau ac enillodd y prosiect y 'wobr creu twf economaidd' yn ogystal ag 'enillydd yr enillwyr' cyffredinol yng ngwobrau Ystadau Cymru 2020.
  • Paratowyd 71% o’r gwastraff cartref i'w ailddefnyddio a/neu ei ailgylchu, gan ragori ar ein targed statudol a oedd yn 64% a tharged Cymru, sef 70% erbyn 2025.
  • Gostyngodd canran y rhai a adawai Blwyddyn 11 heb fynd i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), o 1.40% yn 2019 i 1.00% yn 2020.
  • Erbyn mis Ebrill 2020, roedd 3,239 o bobl ifanc 14-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf ym Mro Morgannwg.
  • Cafodd ceblau newydd eu gosod mewn 49 o ysgolion i wella cysylltiad ac effeithlonrwydd y rhwydwaith. Rydym hefyd wedi darparu 6,500 o ddyfeisiau i ddisgyblion ac athrawon ar draws y sir i gefnogi dysgu.
  • Gwnaethom gryfhau'r gefnogaeth i bob gofalwr trwy'r Porth Gofalwyr a gwneud cyfraniadau ariannol i helpu gofalwyr yr effeithiodd y pandemig yn andwyol arnynt. 

Mewn ymateb i’r Pandemig Covid-19, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Wedi gweithio gyda’n gilydd i ddosbarthu 22,245,236 o eitemau Cyfarpar Diogelu Personol, 12,883 o gynhyrchion glanhau a hylendid, a 109,000 o Becynnau Hunanbrofi Llif Unffordd.
  • Rhoddodd y Cyngor gynnydd cyflog o 10% i weithwyr allweddol – yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hyn.
  • Ffoniodd ein Tîm Cymorth Argyfwng dros 6,000 o bobl ar y Rhestr Hunanwarchod i gynnig cymorth gyda bwyd, pecynnau, siopa a chyfeillgarwch yn ystod y cyfnod clo.
  • Sefydlon ni bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i ddefnyddio safle Canolfan Chwaraeon Colcot yn y Fro fel Canolfan Brofi COVID a safle Canolfan Hamdden Holm View fel Canolfan Imiwneiddio sydd wedi cyfrannu at leihau lledaeniad y feirws a chynllun brechu torfol llwyddiannus.
  • Rhoddwyd 67,000 o dalebau archfarchnad i bron 4,000 o ddisgyblion i gymryd lle prydau a geir fel arfer yn yr ysgol ac i gefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol.
  • Rydym wedi darparu llety gwely a brecwast i dros 517 o bobl ddigartref trwy gydol y pandemig.
  • Rydym wedi parhau i godi proffil gwirfoddoli trwy’r wefan Arwyr y Fro ac mae dros 2,000 o wirfoddolwyr wedi gwirfoddoli i gefnogi trigolion sy'n agored i niwed yn eu cymunedau.
  • Cynhaliwyd 54 o Asesiadau Atal a Rheoli Heintiau mewn lleoliadau gofal a gwnaeth 2,098 o ymweliadau â busnesau. 

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr adroddiad llawn neu'r adroddiad cryno.