Cost of Living Support Icon

 

Cynlluniau i ddatblygu ardal chwarae newydd ym Mhenarth

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori â thrigolion ynghylch cynlluniau i wneud gwaith uwchraddio gwerth £94,000 ym mharc St. David’s Crescent ym Mhenarth.

 

  • Dydd Iau, 25 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg



St. David ParkBydd parc St. David’s Crescent, a elwir hefyd yn barc Owain Crescent, Penarth, yn cael ei uwchraddio y flwyddyn nesaf gydag arian a fuddsoddwyd gan y Cyngor. Bydd y prosiect yn cynnwys cael gwared ar yr offer chwarae a’r arwyneb presennol a rhoi rhai newydd yn eu lle.

 

TMae'r Cyngor yn gofyn i drigolion am eu barn ar gynlluniau ar gyfer yr ardal chwarae newydd. Anogir trigolion i gynnig awgrymiadau ynghylch pa offer newydd yr hoffent ei weld yn y parc a syniadau ar gyfer thema newydd a chyffrous, boed hynny'n natur, bywyd môr neu’r gofod.

 

Mae ystyriaethau eraill ar gyfer y parc yn cynnwys dyluniad newydd ar gyfer y fynedfa gyda gatiau sy’n cau eu hunain a phlannu coed i wella bioamrywiaeth yr ardal.

 

Mae’r ailddatblygiad hwn yn rhan o raglen eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Fro.

 

Gall preswylwyr gyflwyno eu hawgrymiadau trwy ymweld â'r wefan.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'n bwysig i ni ein bod yn ystyried barn trigolion lleol wrth ddatblygu mannau cymunedol.

 

"Mae'r gwaith arfaethedig ym mharc St. David’s Crescent yn rhan o gynllun ehangach i adfywio ardaloedd chwarae ledled y Fro.

 

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ardal chwarae newydd a gwell yn cynnig lle hamdden dymunol a rhyngweithiol i'r gymuned."