Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 22 Mis Ionawr 2021
Bro Morgannwg
Bydd swyddogion yr heddlu wedi'u lleoli wrth fynedfeydd i Barc Gwledig Cosmeston, Aberogwr, Ynys y Barri ac Esplanâd Penarth yn ogystal a chyrchfannau eraill yn yr ardal.
Bydd swyddogion yn atal y rhai sy'n teithio mewn ceir ac yn rhoi dirwyon yn y fan a'r lle os ydynt wedi teithio o du allan yr ardal lleol heb rheswm dilys i deithio mewn cerbyd.
Bydd arwyddion ar waith i rybuddio ymwelwyr am bresenoldeb swyddogion gorfodi.
Mae hyn o ganlyniad i adroddiadau am grwpiau'n casglu a phobl yn teithio mewn car i ymweld â’r lleoliadau hyn.
Ni chaniateir yr un o'r gweithgareddau hyn dan fesurau cyfredol a roddwyd ar waith i fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae cyfyngiadau lefel rhybudd 4 bellach wedi bod ar waith ers cyn y Nadolig ac mae'r ddeddfwriaeth yn glir iawn. Dim ond os oes ganddynt esgus rhesymol dros wneud hynny y dylai aelodau o'r cyhoedd adael eu cartref. "Er bod ymarfer corff yn cael ei ganiatáu a'i annog, dylai hyn ddechrau a gorffen gartref. Dim ond y rhai mewn amgylchiadau eithriadol sy’n cael gyrru i wneud ymarfer corff. "Rydym yn gofyn i bob aelod o'r cyhoedd ofyn i’w hun a yw taith car i'r traeth neu'r parc gwledig yn werth y risg o ddirwy, neu'n waeth na hynny, o ledaenu'r coronafeirws ymhellach. "Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i gynyddu camau gorfodi y penwythnos hwn a sicrhau bod ein cymunedau'n cael eu gwarchod."
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae cyfyngiadau lefel rhybudd 4 bellach wedi bod ar waith ers cyn y Nadolig ac mae'r ddeddfwriaeth yn glir iawn. Dim ond os oes ganddynt esgus rhesymol dros wneud hynny y dylai aelodau o'r cyhoedd adael eu cartref.
"Er bod ymarfer corff yn cael ei ganiatáu a'i annog, dylai hyn ddechrau a gorffen gartref. Dim ond y rhai mewn amgylchiadau eithriadol sy’n cael gyrru i wneud ymarfer corff.
"Rydym yn gofyn i bob aelod o'r cyhoedd ofyn i’w hun a yw taith car i'r traeth neu'r parc gwledig yn werth y risg o ddirwy, neu'n waeth na hynny, o ledaenu'r coronafeirws ymhellach.
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i gynyddu camau gorfodi y penwythnos hwn a sicrhau bod ein cymunedau'n cael eu gwarchod."