Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 18 Mis Chwefror 2021
Bro Morgannwg
Bydd y ffyrdd hyn ar gau rhwng 8am a 5pm gan ddechrau ddydd Llun, 22 Chwefror i ddydd Iau, 26 Chwefror 2021.
Bydd gwyriadau lleol ag arwyddion ar waith i gyfeirio traffig. Bydd y ffordd yn cael ei hailagor bob nos i leihau unrhyw anghyfleustra. Bydd mynediad ar gyfer perchnogion eiddo, gwasanaethau brys a cherddwyr bob amser. Bydd llythyrau'n cael eu hanfon at bob perchennog eiddo yr effeithir arno ar hyd Esplanade Penarth, a chaiff arwyddion Rhybudd Ymlaen Llaw eu codi ar yr Esplanade i roi gwybodaeth i ymwelwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: “Rydym yn falch o ddweud bod gwaith ar y cynllun parcio ar y gweill. Mae Penarth a'r Esplanade bob amser wedi bod yn gyrchfannau poblogaidd i bobl leol a thwristiaid. “Unwaith y bydd cyfyngiadau Coronafirws wedi’u llacio a bod pobl yn cael teithio, bydd y cynllun parcio newydd yn darparu capasiti parcio a throsiant ychwanegol i helpu i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr â’r ardal. “Rwy’n siŵr y bydd hwn yn welliant i’w groesawu i fusnesau a’r economi leol, gan ganiatáu i’r safle ffynnu.”
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: “Rydym yn falch o ddweud bod gwaith ar y cynllun parcio ar y gweill. Mae Penarth a'r Esplanade bob amser wedi bod yn gyrchfannau poblogaidd i bobl leol a thwristiaid.
“Unwaith y bydd cyfyngiadau Coronafirws wedi’u llacio a bod pobl yn cael teithio, bydd y cynllun parcio newydd yn darparu capasiti parcio a throsiant ychwanegol i helpu i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr â’r ardal.
“Rwy’n siŵr y bydd hwn yn welliant i’w groesawu i fusnesau a’r economi leol, gan ganiatáu i’r safle ffynnu.”
Cabinet Report on the proposed parking scheme