Cost of Living Support Icon

 

Lansio Llwybr Carlam i Ofal er mwyn recriwtio gweithwyr gofal ar frys

Mae rhaglen hyfforddiant llwybr carlam wedi’i lansio gan Gyngor Bro Morgannwg i helpu i lenwi swyddi gwag ym mhob rhan o’r sector gofal. 

 

  • Dydd Gwener, 10 Mis Rhagfyr 2021

    Bro Morgannwg



Mae rhaglen hyfforddiant llwybr carlam wedi’i lansio gan Gyngor Bro Morgannwg i helpu i lenwi swyddi gwag ym mhob rhan o’r sector gofal. 

 

Dyluniwyd y rhaglen Llwybr Carlam i Ofal yn arbennig ar gyfer recriwtiaid ag ond ychydig neu ddim profiad o gwbl yn y maes gofal. Nod y rhaglen yw recriwtio dwsinau o ofalwyr newydd ym misoedd cyntaf 2022. 

 

Bydd y cynllun yn recriwtio a hyfforddi staff ar gyfer mwy nag 20 o ddarparwyr gofal sy’n gweithredu yn y Fro, yn ogystal ag ar gyfer rolau gyda Chyngor Bro Morgannwg.  

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae Bro Morgannwg, fel gweddill y DU, ar hyn o bryd yn wynebu galw nas gwelwyd erioed o'r blaen am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

“Nawr, rydym yn gweld cynnydd o 30% yn nifer y bobl sydd angen gofal gartref, o'i gymharu â chyn y pan demig. Mae’r cynnydd enfawr hwn yn y galw wedi dod ar adeg pan fo gweithwyr gofal yn brin yn genedlaethol.

 

“Mae angen rhoi camau gweithredu ar waith ar frys i fynd i’r afael â hyn. 

 

“Rydym yn gwybod bod gyrfa yn y maes gofal yn apelio at lawer o bobl, ond am lawer o resymau eu bod wedi oedi cyn cymryd y cam hwnnw. Dyma pam ein bod yn ei gwneud mor haws â phosibl i bobl symud i’r sector. 

 

“Mae ein rhaglen Llwybr Carlam i Ofal yn cynnig pecyn gwell nag erioed o’r blaen. Bydd newydd-ddyfodiaid i’r maes yn barod i weithio mewn dwy wythnos. Byddant yn cael hyfforddiant achrededig a chefnogaeth  gan fentor i’w harwain drwy gydol eu misoedd cyntaf.  

 

“Mae’r sector gofal cymdeithasol angen mwy o ofalwyr newydd nag erioed o’r blaen a dyma’r adeg i bobl wneud gwahaniaeth mawr drwy ddechrau ar eu gyrfa yn y maes.

Bydd recriwtiaid i’r rhaglen Llwybr Carlam i Ofal, dros gyfnod o ddwy wythnos, yn cael yr holl hyfforddiant angenrheidiol i weithio fel gweithiwr gofal cartref neu mewn rôl breswyl.

 

Caiff geirdaon, yr hawl i weithio a gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd eu cyflawni ar yr un pryd.

 

Bydd y garfan gyntaf yn dechrau ar ei hyfforddiant ym mis Ionawr. Ar ôl cwblhau Llwybr Carlam i Ofal bydd graddedigion yn cael eu paru â swyddi gwag yn y Fro sydd fwyaf addas iddynt.

 

Bydd llawer o’r swyddi dan sylw yn cynnig y cyfle i ddechrau ar unwaith.  

 

Gellir ymgeisio ar gyfer y Llwybr Carlam i Ofal ar-lein