Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 30 Mis Ebrill 2021
Bro Morgannwg
Ein pedwar amcan lles yw:
Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg, 'Mae Cynllun Cyflawni Blynyddol 2021-22 wedi'i ysgrifennu ar adeg o newid mawr. Y llynedd cyhoeddwyd Cynllun Corfforaethol 2020-25 – Gweithio gyda’n gilydd at ddyfodol disgleiriach. Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol hwn yn manylu ar y camau y byddwn yn eu rhoi ar waith eleni i gyfrannu at y gwaith o gyflawni ein Cynllun Corfforaethol. ‘Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn adlewyrchu sut mae gwasanaethau'n newid, ein Strategaeth Adfer a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ymateb i'r pandemig. Mae'r Cyngor yn parhau’n uchelgeisiol yn ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, rydym yn parhau’n ymrwymedig i gyflawni ein hamcanion ac i gyflawni ein gweledigaeth o 'cymunedau cryf gyda dyfodol disglair'.
Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg, 'Mae Cynllun Cyflawni Blynyddol 2021-22 wedi'i ysgrifennu ar adeg o newid mawr. Y llynedd cyhoeddwyd Cynllun Corfforaethol 2020-25 – Gweithio gyda’n gilydd at ddyfodol disgleiriach. Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol hwn yn manylu ar y camau y byddwn yn eu rhoi ar waith eleni i gyfrannu at y gwaith o gyflawni ein Cynllun Corfforaethol.
‘Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn adlewyrchu sut mae gwasanaethau'n newid, ein Strategaeth Adfer a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ymateb i'r pandemig. Mae'r Cyngor yn parhau’n uchelgeisiol yn ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, rydym yn parhau’n ymrwymedig i gyflawni ein hamcanion ac i gyflawni ein gweledigaeth o 'cymunedau cryf gyda dyfodol disglair'.
Mae'r Cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau hanfodol i drigolion y Fro ac ar yr un pryd mae’n ceisio gwella ein gwasanaethau bob blwyddyn. Wedyn cyhoeddir y gweithgareddau a wneir i gyflawni Amcanion Lles y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod mewn Cynlluniau Gwasanaeth, sy’n cyfrannu’n helaeth at y gwaith o gyflawni’r Cynllun Corfforaethol.
Caiff y cynlluniau hyn eu monitro bob chwarter. Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ddyletswydd statudol i gyhoeddi Amcanion Lles bob blwyddyn a phennu targedau’n erbyn y rhain er mwyn ysgogi gwelliannau mewn meysydd sy’n bwysig i ni a thrigolion y Fro.
Darllenwch fwy am ein Hamcanion ar gyfer 2021/22 yn ein Cynllun Cyflawni Blynyddol.