Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 16 Mis Medi 2020
Bro Morgannwg
Mae Jehu Group wedi adeiladu 28 o gartrefi pwrpasol newydd yn Llys Llechwedd Jenner, neu Brecon Court yn flaenorol. Mae'r eiddo wedi'u gorffen i safon uchel iawn a byddant ar gael yn fuan i denantiaid tai cymdeithasol, gan ddarparu cartrefi i'r rheini yn y gymuned sydd eu hangen fwyaf.
Wedi’u hadeiladu ar safle hen lety gwarchod a’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn cynnwys naw tŷ â dwy ystafell wely, pedwar cartref teuluol â thair ystafell wely a 15 fflat un ystafell wely sy’n cael eu cadw ar gyfer pobl hŷn. Dyma'r gyntaf mewn cyfres o brosiectau a fydd yn adfywio ac yn darparu tai y mae mawr eu hangen mewn ardaloedd ledled Bro Morgannwg.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Mewn partneriaeth â Jehu, rydym wedi gallu darparu amrywiaeth o gartrefi Cyngor wedi'u hadeiladu i’r ansawdd gorau. “Mae’r datblygiad hwn yn rhan o gynlluniau eang y Cyngor i gynyddu ei stoc dai a bodloni’r galw mawr lleol am lety o’r math hwn. “Bydd yr amrywiaeth o wahanol eiddo sydd wedi cael eu codi yn rhoi lleoedd cysurus i deuluoedd, i barau ac i breswylwyr hŷn fyw ynddynt. “Mae’r datblygiad hefyd yn ailddefnyddio safle segur i gyflawni swyddogaeth bwysig yn yr ardal.”