Project ailwampio helaeth ar gyfer Llyfrgell Penarth
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi comisiynu dau welliant i'r llyfrgell, i’w cwblhau yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd cyfleusterau cyfrifiadura newydd sbon yn disodli'r ystafell TG bresennol. Bydd y gofod hefyd yn gartref i wneuthurwyr, lle gall defnyddwyr y llyfrgell ymgynnull i gyd-greu, rhannu adnoddau, gweithio ar brojectau a rhwydweithio.
Mae project man y gwneuthurwyr yn rhan o fenter gan Lywodraeth y DU i helpu dysgwyr canolradd ac uwch i ddatblygu eu sgiliau a'u creadigrwydd. Bydd y rhai sy'n dilyn pynciau STEM neu STEAM yn elwa o'r gofod.
Rhoddwyd arian i'r Cyngor hefyd gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru i adnewyddu'r llawr gwaelod.
Bydd yr ardal, sydd braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn yn cael ei moderneiddio a'i gwneud yn fwy hygyrch.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi cael arian ar gyfer uwchraddio llyfrgell Penarth.
"Nod y ddau broject yw galluogi’r gymuned i ddefnyddio adnoddau llyfrgell yn fwy gan gynnwys y stoc llyfrau, yr ardaloedd astudio a chyfarfod a’r ardal gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.
"Fel Hyrwyddwr Pobl Ifanc y Cyngor, rwyf hefyd yn falch o weld bod man i wneuthurwyr yn cael ei greu. Rwy'n gobeithio y bydd pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli i wneud yn fawr ohono i ddatblygu eu doniau a'u diddordebau."
Oherwydd graddau'r gwaith sy'n cael ei wneud, bydd adeilad y llyfrgell ar gau i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y llyfrgell yn gweithredu gwasanaeth Clicio a Chasglu o’r Llyfrgell Dros Dro yn Neuadd y Cadetiaid Morol rhwng 14 Medi a dechrau 2021.
Yn ystod y cyfnod hwn, gall defnyddwyr archebu llyfrau, llyfrau llafar a DVDs gan ddefnyddio catalog ar-lein y llyfrgell i'w casglu ar ddyddiad ac amser penodol. Gellir archebu eitemau dros y ffôn neu drwy e-bost hefyd.
Oriau Agor
Mwy am y Gwasanaeth Clicio a Chasglu.
O 5 Hydref ymlaen, bydd staff yn cynnig gwasanaeth dosbarthu llyfrau i’r cartref ar gyfer defnyddwyr sy’n methu casglu'n bersonol. Gellir archebu llyfrau yn yr un modd â'r system Clicio a Chasglu. I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, cysylltwch â'r llyfrgell: