Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 12 Mis Tachwedd 2020
Bro Morgannwg
Yn rhan o waith gwella eang sy'n digwydd mewn safleoedd tebyg ledled y Sir, bydd yr ardal chwarae newydd yn cynnwys amrywiaeth o siglenni, cylchfan sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, dwy uned aml-ddefnydd, si-so, sbringiau, paneli chwarae, mainc picnic, seddi a biniau. Helpodd Cyngor Cymuned Llangan i drefnu ymarfer ymgynghori gyda thrigolion lleol, a gynhaliwyd ar-lein, i sicrhau bod eu barn yn cael ei hadlewyrchu yn y cynllun terfynol. Disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Ionawr a disgwylir iddo gymryd tua mis i'w gwblhau.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: “Bydd y gwaith hwn ym Mharc Treoes yn trawsnewid ardal chwarae hen ffasiwn yn ardal fodern yn llawn o’r offer diweddaraf sy’n addas i blant o oedrannau amrywiol. “Mae hyn yn rhan o raglen waith helaeth sydd wedi gweld ardaloedd chwarae ledled y Fro yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Dim ond un o nifer o ardaloedd chwarae a fydd yn cael eu diweddaru yn y dyfodol agos yw ardal chwarae Treoes. Mae mor bwysig caniatáu i blant allu chwarae'n ddiogel yn yr awyr agored."