Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn sicrhau bod taliadau hunanynysu ar gael i breswylwyr ar incwm isel

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau prosesu taliadau hunanynysu ar gyfer y rhai ar incwm isel na allant weithio gartref.

 

  • Dydd Iau, 26 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws archebu prawf a hunanynysu yn eu cartref nes iddynt dderbyn y canlyniad.


Os yw'r canlyniad hwnnw'n bositif, rhaid iddynt hunanynysu am 10 diwrnod o ddechrau'r symptomau neu o ddyddiad y prawf.


Rhaid i aelodau eraill o'r cartref hunanynysu am 14 diwrnod o ddyddiad canlyniad prawf positif.


Gall y rhai sydd wedi profi'n bositif am Covid-19 neu y dywedwyd wrthynt yn ffurfiol am hunanynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru ar neu ar ôl 23 Hydref wneud cais am daliad mewn rhai amgylchiadau.

 

Civic

Bydd taliadau'n cael eu trethu ond maent wedi'u heithrio o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ac ni ddylent effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r cynllun i weinyddu taliadau cymorth hunanynysu ym Mro Morgannwg ar waith. Am fwy o wybodaeth ewch i adran Diweddariadau Coronafeirws y wefan.


"Dyma'r llinyn diweddaraf o gymorth ariannol y mae'r Cyngor wedi'i ddarparu i breswylwyr bregus ers dechrau'r pandemig.


"Mewn partneriaeth ag Age Connects a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, mae Tîm Arwyr y Fro y Cyngor hefyd wedi cynnig cymorth gyda dosbarthu bwyd a chasglu meddyginiaethau, yn ogystal â chymorth emosiynol i helpu'r rhai sy'n hunanynysu i ymdopi ag unigrwydd a materion lles eraill."