Gwahodd ceisiadau i gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi helpu i ddyrannu bron £25,000 drwy Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru hyd yma eleni ac mae bellach yn gwahodd ceisiadau grant pellach.
Mae’r ymddiriedolaeth elusennol, Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru, yn gweithredu'n annibynnol ar y Cyngor, gan gynnig cymorth ariannol at ystod eang o ddibenion i sefydliadau ledled Caerdydd a'r Fro.
Gallai arian fynd tuag at addysg, cynnal cyfleusterau cymdeithasol neu hamdden, diogelu adeiladau hanesyddol, cynorthwyo'r rhai sy'n profi caledi ac ystod eang o gynlluniau eraill.
Mae gwaith adnewyddu yn hosbis plant Tŷ Hafan a phrosiect i helpu'r rhai sydd â Sglerosis Ymledol i ymdopi â heriau Covid-19 ymhlith y ceisiadau sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid yn 2020/21.
Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru arian ar gael at amrywiaeth o ddibenion dyngarol.
"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n perthyn i sefydliad a allai fod angen cymorth ariannol gyda phrosiect i ymweld â gwefan y Cyngor i weld a allai fod yn gymwys i gael cymorth."
Cytunir ar y cylch ariannu nesaf ym mis Ionawr a rhaid i geisiadau ddod i law erbyn canol mis Rhagfyr.
Mae ar gael i sefydliadau yn unig, nid unigolion, unwaith bob tair blynedd a rhaid iddynt fod ar gyfer prosiect untro.
Mae'r gwobrau fel arfer yn amrywio o £100 i £5,000 a gofynnir am arian cyfatebol o 25 y cant fel arfer.
I gael gwybodaeth lawn ewch i'r dudalen meini prawf.
Meini Prawf Ymgeisio