Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 02 Mis Mawrth 2020
Bro Morgannwg
Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf y Newidwyr Gyrfa ym mis Mehefin 2019 yn Swyddfeydd Dinesig y Barri.
O'r digwyddiad hwn a chymorth parhaus rhaglen CITB, mae ISG, sy'n gweithio ar hyn o bryd i ehangu ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, a Morgan Sindall, sy'n adeiladu Ysgol Uwchradd Whitmore, wedi cymryd prentisiaid gwaith tir.
Mae ISG a Morgan Sindall yn darparu'r hyfforddiant angenrheidiol i'w prentisiaid ddod yn yrwyr teledrafodwyr profiadol a marsialiaid traffig.
"Mae ISG wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi drwy'r rhaglen Newidwyr Gyrfa i roi cynnig ar bethau newydd yn y diwydiant ac wedi helpu i ddatblygu fy hyder nid yn unig ar y safle ond yn fy mywyd bob dydd. Ar hyn o bryd rwy'n ennill profiad o ddefnyddio teledrafodwr gyda'r uchelgais o gymhwyso’n llawn fel gyrrwr erbyn diwedd y prosiect." - Lisa Snape, Cyfranogwr gyda Newidwyr Gyrfa.
"Mae ISG wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi drwy'r rhaglen Newidwyr Gyrfa i roi cynnig ar bethau newydd yn y diwydiant ac wedi helpu i ddatblygu fy hyder nid yn unig ar y safle ond yn fy mywyd bob dydd.
Ar hyn o bryd rwy'n ennill profiad o ddefnyddio teledrafodwr gyda'r uchelgais o gymhwyso’n llawn fel gyrrwr erbyn diwedd y prosiect." - Lisa Snape, Cyfranogwr gyda Newidwyr Gyrfa.
Yn y llun: Lisa ar y safle gyda Harriet a Dan, ISG.
Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 30 Mawrth yn y Swyddfeydd Dinesig i helpu i ddod o hyd i ymgeisydd addas ar gyfer gwaith ar Ysgol Uwchradd Pencoedtre gyda Bouygues UK.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i'r digwyddiad hwn, cysylltwch â Thîm Ysgolion yr 21ain Ganrif.