Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 26 Mis Mehefin 2020
Bro Morgannwg
“Roedd yr hyn ddigwyddodd ar draeth Aberogwr neithiwr yn warthus. Gwnaeth y rheiny a barodd yr anhrefn ddiystyru nid yn unig eu diogelwch eu hunain ond hefyd ddiogelwch y gymuned gyfan. Mae’r rheoliadau aros yn lleol a’r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ar waith o hyd yng Nghymru ond mae’n amlwg bod llawer o bobl wedi dewis anwybyddu’r rhain. Mae ymgyrch fawr bellach ar y gweill i lanhau’r traeth. Mae maes parcio traeth Aberogwr wedi’i gau a bydd yn parhau ar gau tan ddechrau’r wythnos nesaf o leiaf. Mae Prif Weinidog Cymru wedi’i gwneud yn glir heddiw, fod gweithredoedd fel hyn gan leiafrif anghyfrifol yn peryglu’r camau graddol sy’n cael eu cymryd i lacio’r cyfnod cloi y mae llawer o bobl wedi gweithio’n galed i’w gwneud yn bosibl". - Neil Moore, Arweinydd y Cyngor
“Roedd yr hyn ddigwyddodd ar draeth Aberogwr neithiwr yn warthus. Gwnaeth y rheiny a barodd yr anhrefn ddiystyru nid yn unig eu diogelwch eu hunain ond hefyd ddiogelwch y gymuned gyfan.
Mae’r rheoliadau aros yn lleol a’r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ar waith o hyd yng Nghymru ond mae’n amlwg bod llawer o bobl wedi dewis anwybyddu’r rhain.
Mae ymgyrch fawr bellach ar y gweill i lanhau’r traeth. Mae maes parcio traeth Aberogwr wedi’i gau a bydd yn parhau ar gau tan ddechrau’r wythnos nesaf o leiaf.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi’i gwneud yn glir heddiw, fod gweithredoedd fel hyn gan leiafrif anghyfrifol yn peryglu’r camau graddol sy’n cael eu cymryd i lacio’r cyfnod cloi y mae llawer o bobl wedi gweithio’n galed i’w gwneud yn bosibl".
- Neil Moore, Arweinydd y Cyngor
“Byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu De Cymru i nodi’r ffordd orau o reoli nid yn unig y maes parcio hwn ond pob un o’n cyrchfannau arfordirol er mwyn cefnogi eu dull o orfodi’n y ffordd orau bosib. Byddai’n gwbl annheg â’r holl drigolion lleol ac ymwelwyr hynny sydd wedi mwynhau ein harfordir a’n cyrchfannau prydferth yn gyfrifol yr wythnos hon pe byddai’n rhaid i ni roi mesurau mwy parhaol ar waith i atal cynulliadau mawr o bobl, ond mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried nawr.” - Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr
“Byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu De Cymru i nodi’r ffordd orau o reoli nid yn unig y maes parcio hwn ond pob un o’n cyrchfannau arfordirol er mwyn cefnogi eu dull o orfodi’n y ffordd orau bosib.
Byddai’n gwbl annheg â’r holl drigolion lleol ac ymwelwyr hynny sydd wedi mwynhau ein harfordir a’n cyrchfannau prydferth yn gyfrifol yr wythnos hon pe byddai’n rhaid i ni roi mesurau mwy parhaol ar waith i atal cynulliadau mawr o bobl, ond mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried nawr.”
- Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr