Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn buddsoddi £650,000 mewn darpariaeth gofal plant

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwario £650,000 ar greu darpariaeth gofal plant arbenigol yn Ysgol Dewi Sant yn Llanilltud Fawr.

 

  • Dydd Iau, 27 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



Dewi Sant school

 

Bydd yr arian hwn yn cael ei wario ar adeiladu cyfleuster i addysgu plant tair a phedair oed sydd wedi cofrestru dan y Cynnig Gofal Plant 30-awr. 


Mae’r cynllun yn cynnig 30 awr o addysg a gofal plant i rieni sy’n gymwys am hyd at 48 wythnos yn y flwyddyn. 


Seiliwyd cynllun yr adeilad ar dempled a grëwyd gan y datblygwyr ISG Construction mewn cydweithrediad â Stride Treglown Architects. 

 
Er bod modd ei addasu, roedd cadw at gynllun cyffredin yn golygu bod modd cadw costau’n isel a chael adeilad gorffenedig fydd yn werth am arian. 

 

“Mae disgyblion Ysgol Dewi Sant eisoes yn mwynhau cyfleusterau o’r radd flaenaf gan fod yr adeilad wedi’i godi’n ddiweddar fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor.


“Gyda’r buddsoddiad newydd hwn fe fydd hyd yn oed mwy o ddarpariaeth o’r safon uchaf gan y gymuned, ar ffurf cyfleusterau parhaol wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer plant sydd wedi cofrestru dan y Cynnig Gofal Plant 30-awr. 

 
“Mae’n adlewyrchu ymrwymiad pellach i addysg yn y Fro, gyda gwaith adnewyddu sylweddol yn digwydd ledled y Sir.” - y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio.