Cost of Living Support Icon

 

Gwahodd busnesau Bro Morgannwg i fod ar flaen y gad gyda Grwp Llywio'r Economi Sylfaenol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd busnesau rhanbarthol, masnachwyr unigol a mentrau bach a chanolig i fod yn rhan o'r fenter economaidd newydd.

 

  • Dydd Mercher, 19 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Bydd y Cyngor yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i gyflawni'r prosiect, gan anelu at sicrhau mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i gofleidio dull yr Economi Sylfaenol.
 
Bydd y fenter yn helpu i gefnogi caffael lleol ac yn sbarduno gwariant lleol, a hynny yn ei dro yn creu cadwyni cyflenwi cryfach ac yn moderneiddio'r economi leol i gefnogi busnesau a chymunedau.
 
Mae gobeithion y bydd y fenter hefyd yn hybu cynnydd mewn projectau tebyg ymhlith sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Eglurodd Rheolwraig y Project, Madeline Sims: "Rydyn ni am herio ein polisi caffael lleol presennol drwy wahodd busnesau cymunedol ac unig fasnachwyr i dendro am gontractau gyda'r Cyngor.

"Byddwn yn cynnal cyfres o weithdai, sesiynau cyngor busnes a mentora busnes 1 wrth 1 am 6 mis i gael mwy o fusnesau bach lleol i wneud ceisiadau am gontractau.

"Mae’r Cyngor yn gallu cynnig rhywfaint o sicrwydd o ran llif arian i'r economi ac felly mae'n awyddus i gefnogi busnesau lleol sydd â diddordeb."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett: “Rydym eisoes yn dangos lefel uchel o gaffael lleol a buddion cymunedol trwy ein rhaglen adeiladu Ysgolion yr 21ain Ganrif ac edrychaf ymlaen at weld y sefydliad yn gweithio gyda llawer mwy o fusnesau lleol i wneud tendro a chaffael yn fwy syml byth.

“Hoffem weld llawer mwy o fusnesau bach a chanolig yn y Fro yn cael contractau i weithio gyda ni a Sefydliadau Sector Cyhoeddus eraill yng Nghymru.

"Rydyn ni’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r cais yn rhan o'r Gronfa Her."

Am ragor o wybodaeth ac i fynegi eich diddordeb, cysylltwch â: 

  • msims@valeofglamorgan.gov.uk