Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn llongyfarch disgyblion TGAU

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi llongyfarch disgyblion TGAU wedi iddyn nhw gael eu canlyniadau heddiw

 

  • Dydd Iau, 20 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Teithiodd disgyblion i ysgolion ar hyd a lled y Sir y bore yma, neu cawsant eu canlyniadau mewn e-bost. 

 

Pennwyd y canlyniadau ar sail y graddau yr oedd eu hathrawon yn disgwyl iddynt eu cael, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon. 

 

Bu'r Cynghorydd Lis Burnet, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, yn canmol y disgyblion am eu cyflawniadau yn dilyn cyfnod anodd yn ddiweddar. 

"Hoffwn gydnabod llwyddiannau disgyblion TGAU ar draws y Fro a gasglodd eu canlyniadau heddiw," meddai.

 

"Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ond mae wedi bod yn arbennig o anodd i ddisgyblion sy'n aros i gael eu graddau.

 

"Rwy'n falch y defnyddiwyd y graddau yr oedd athrawon yn disgwyl i’r disgyblion eu cael i bennu eu canlyniadau gan mai dyna oedd y dull mwyaf teg a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i bawb a gasglodd eu canlyniadau heddiw ar gam nesaf eu taith."