Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 19 Mis Awst 2020
Bro Morgannwg
Mae Prif Swyddog Meddygol (PSM/CMO) Llywodraeth Cymru wedi anfon llythyrau at y rhai a ddynodwyd fel rhai a oedd yn agored i niwed ac a hysbyswyd yn flaenorol i aros gartref gan ddweud wrthynt bod y cyfnod cysgodi wedi'i oedi. Fodd bynnag, gellid ailgyflwyno trefniadau cysgodi pe byddai nifer yr achosion Covid-19 mewn cymuned yn codi'n sylweddol. Yr wythnos hon, rydym wedi gweld bocsys bwyd olaf Llywodraeth Cymru yn cael eu danfon i'r trigolion hynny a oedd wedi dewis cael y rhain dros y misoedd diwethaf. Os na all y rhai a oedd yn cysgodi o'r blaen ymweld â'r archfarchnad neu'r fferyllfa eu hunain ac os na all ffrindiau neu deulu eu cynorthwyo, mae gwybodaeth am fudiadau gwirfoddol a all helpu ar gael ar gyfeirlyfr Arwyr y Fro y Cyngor.
Arwyr y Fro Mae'r cynllun cymorth hwn wedi'i lunio fel rhan o bartneriaeth barhaus y Cyngor â Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg. Mae'r cyfeirlyfr hefyd yn cynnwys gwybodaeth i gefnogi llesiant pobl, tra bod tîm cymorth mewn argyfwng y Cyngor yn wasanaeth arall sy'n cynnig cymorth yn y maes hwn a gellir cysylltu â nhw ar 01446 729592. Mae'r Cyngor hefyd ar hyn o bryd yn cynnig gosod Teleofal am ddim, sef gwasanaeth larwm brys, ar gyfer y rhai sydd ei angen. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru am ddiweddariadau ar wasanaethau cymorth ffoniwch 01446 700111 neu e-bostiwch C1V@valeofglamorgan.gov.uk Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Nawr bod y cyfnod cysgodi wedi ei oedi, bydd rhywfaint o'r ddarpariaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i'r rhai y gofynnwyd iddynt gysgodi ac aros yn eu cartrefi hefyd yn dod i ben. "Fodd bynnag, rwyf am i breswylwyr wybod y bydd y Cyngor yn parhau i gynnig amrywiaeth o gymorth i'r unigolion hynny sy'n parhau i fod yn agored i niwed a heb rwydwaith i’w cefnogi. "Mae ein cyfeiriadur Arwyr y Fro yn cynnwys gwybodaeth am lu o gymorth sydd ar gael. Mae nifer o wasanaethau eraill ar gael hefyd ac rwy'n falch o gadarnhau ein bod yn parhau yn ymrwymedig i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau."Welsh Government’s Chief Medical Officer (CMO) has sent letters to those designated as vulnerable and previously told to stay at home stating the shielding period has been paused. However, shielding arrangements could be reintroduced if the number of Civid-19 cases within a community rises significantly. This week has seen the last delivery of Welsh Government food boxes to those residents who have chosen to receive these in recent months. If those previously shielding are not able to visit the supermarket or pharmacy themselves and friends or family cannot assist, information on voluntary organisations that can help is available on the Council’s Vale Heroes directory, www.valeofglamorgan.gov.uk/ValeHeroes. This assistance scheme has been put together as part of the Council’s continuing partnership with Glamorgan Voluntary Services. The directory also contains information to support people’s well-being, while the Council’s Crisis support team is another service that offers help in this area and can be contacted on 01446 729592. The Council is also currently offering free installation of Telecare, an emergency alarm service, for those that require it. For more information and to register for updates on support services call 01446 700111 or email C1V@valeofglamorgan.gov.uk
Cllr Neil Moore, Leader of the Vale of Glamorgan Council, said: “Now that the shielding period has been paused, some of the provision made available by Welsh Government to those who were asked to shield and remain in their homes will also stop. “However, I want residents to know that the Council will continue to offer a range of support to those individuals who remain vulnerable and without a support network. “Our Vale Heroes directory contains information on a host of available assistance. There are also a number of other services on offer and I am pleased to confirm that we remain committed to supporting the most vulnerable within our communities.”