Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 22 Mis Mai 2019
Bro Morgannwg
Penodwyd Cabinet newydd wedyn gan yr Arweinydd, sydd fel a ganlyn:
Dywedodd y Cynghorydd Moore: “Rwy’n falch iawn o arwain gweinyddiaeth sydd â Chabinet sy’n
cynrychioli pobl y Fro yn llawn ac sy’n gytbwys o ran rhyw a daearyddiaeth.
“Mae ein blaenoriaethu’n syml. Rydym eisiau gwarchod pobl a gwasanaethau lleol rhag effaith caledi a sicrhau nad oes yr un ardal o’r Fro yn cael ei gadael ar ôl.
“Tra ein bod yn gwneud hyn byddwn yn ceisio ymgysylltu’n fwy â phobl leol i sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud ar ddyfodol y cymunedau a’r gwasanaethau mae’r Cyngor yn eu cynnig.”
Penodwyd cadeiryddion newydd ar gyfer pedwar o bum pwyllgor craffu’r Cyngor hefyd yn y cyfarfod. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau, y Cynghorydd Mark Wilson
Yr Amgylchedd ac Adfywio, y Cynghorydd Bronwen Brooks
Byw’n Iach a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Rachel Nugent-Finn
Dysgu a Diwylliant, y Cynghorydd Gordon Kemp
Bydd cadeirydd ar gyfer yr Pwyllgor Craffu Cartrefi a Chymunedau Diogel yn cael ei benodi yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.
Bydd rhestr lawn o gadeiryddion ac is-gadeiryddion ar gyfer y pwyllgorau lled-farnwrol a hyrwyddwyr awdurdod lleol yn cael ei chyhoeddi ar-lein yn www.bromorgannwg.gov.uk yn nes ymlaen yn yr wythnos.