Lôn Pendeulwyn i gau am 6 wythnos i alluogi gwelliannau ffordd
Bydd Lôn Pendeulwyn yn cau am 6 wythnos yn dechrau ar 08 Ebrill 2019
Bydd y ffordd ar gau i alluogi Walters UK Ltd i wneud gwaith gwella’r ffordd ar y rhan o’r ffordd sy’n uniongyrchol i’r gogledd o gyffordd Sycamore Cross yn Cottrell Green.
Mae’r gwaith gwella’n cynnwys lledaenu’r ffordd bresennol ac adeiladu llwybr gerdded i’r datblygiad preswyl newydd, ynghyd â’r holl waith tir cysylltiedig, draenio ac ail-arwynebu’r ffordd. Mae’r gwaith yn cael ei wneud ar ran Grŵp Eiddo Acorn.
Bydd y gwelliannau ffyrdd hyn yn helpu i leihau tagfeydd a’r problemau pasio presennol y mae traffig yn eu cael ar hyd y ffordd gul hon.
Oherwydd lled cul y ffordd bresennol, mae angen cau’r ffordd i sicrhau diogelwch y cyhoedd a’r rheiny fydd yn gwneud y gwaith. Gwneir pob ymdrech i gadw’r cyfnod y bydd y ffordd ar gau mor fyr â phosibl i leihau unrhyw anghyfleustra a tharfu.
Ar ôl y cyfnod pan fydd y ffordd ar gau, bydd y gwaith adeiladu’n parhau gyda rheoliadau traffig ar waith i gynnal y trefniadau pasio un-lôn ‘aros/mynd’ presennol am 20 wythnos bellach.
Effeithir dros dro ar y lôn troi i’r dde o ffordd orllewinol yr A48 yn Sycamore Cross hefyd.
Bydd gwyriadau traffig ar waith gydol y cyfnod.
Mae dyddiad dechrau’r cyfnod yn cael ei gydlynu fel na fydd yn dechrau tan fod y Lôn Pum Milltir gyfagos wedi ailagor yn llawn. Disgwylir y bydd hyn ar ddechrau mis Ebrill.
Bydd Walters UK Ltd yn anfon llythyrau i bob cartref yn yr ardal dros yr wythnos hon i sicrhau bod pob preswylydd lleol yn ymwybodol o’r uchod.