Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 02 Mis Ebrill 2019
Bro Morgannwg
Mae'r Cynllun Gwella (Rhan 1) wedi llywio gan Cynllun Corfforaethol y Cyngor, hunanasesiad blynyddol y Cyngor, y broses cynllunio gwasanaethau flynyddol, adroddiadau gan ein rheoleiddwyr allanol, yn ogystal â gan yr hyn mae ein trigolion wedi ei ddweud wrthym mewn ymgyngoriadau sydd wedi’u cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r Cyngor yn ymdrechu'n gyson i ddarparu ystod eang o wasanaethau hanfodol ac o ansawdd da i drigolion y Fro, gan geisio gwella ar yr un pryd. Cyhoeddir y gweithgareddau i gyflawni Amcanion Llesiant (Gwelliant) y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod yn y Cynlluniau Gwasanaeth, sef y mecanwaith allweddol ar gyfer cyflawni ein Cynllun Corfforaethol a chaiff y rhain eu monitro bob chwarter.
Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ddyletswydd statudol i gyhoeddi Amcanion Gwella bob blwyddyn, a phennu targedau’n erbyn y rhain er mwyn ysgogi gwelliannau mewn meysydd sy’n bwysig i ni ac i ddinasyddion. Gallwch darllen mwy o wybodaeth ar ein Cynllun Gwella Rhan 1 2018-19 a'r crynodeb.