Cyngor Bro Morgannwg yn parhau â mentrau i leihau’r defnydd o blastigau defnydd untro
Yn dilyn gosod ffynhonnau yfed modern ledled y Fro, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno â Radio Bro i roi poteli dŵr y gellir eu hail-ddefnyddio i wirfoddolwyr.
Mae Bro Radio yn cefnogi rhaglen ddigwyddiadau’r haf y Cyngor, Penwythnosau Ynys y Barri, gyda chymorth gwirfoddolwyr.
Gydol y rhaglen yma rhoddir poteli o ddŵr i wirfoddolwyr i’w cadw wedi eu hydradu drwy’r dydd.
Cyfrifodd y tîm eu bod mae’n debyg yn mynd drwy rhwng 400-600 o boteli plastig o ddŵr bob haf.
Trwy roi 100 o boteli ailddefnyddiadwy i Bro Radio, mae’r Cyngor yn herio’r defnydd o blastigau defnydd untro yn un o’i brif cyrchfannau.
Dwedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett:
"Rwy’n credu fod hyn yn enghraifft rhagorol o’r Cyngor yn gweithio gyda sefydliad lleol, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn bennaf, i gofleidio’r defnydd o ddeunydd cynaliadwy, yn hytrach na phlastigau untro. Bydd y fenter hon hefyd yn arbed arian sydd yn hanfodol ar gyfer gorsaf radio gymunedol.
Mae’r ffynhonnau ail-lenwi ar hyd a lled yr ynys yn golygu y gall ymwelwyr ddod â photeli ailddefnyddiadwy gyda nhw neu eu prynu nhw tra bod nhw yma gan arbed arian a’r amgylchedd ar yr un pryd.’"
Dywedodd Nathan Spackman, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bro Radio:
"Yn dilyn rhaglenni teledu fel Blue Planet a War on Plastic, roedden ni’n awyddus i edrych ar leihau faint o blastig untro rydym yn ei ddefnyddio fel sefydliad ac i gefnogi’n gwirfoddolwyr i wneud yr un modd.
“Ar ôl sylweddoli faint o blastig ddefnyddiwyd gennym yn 2019 a chyda digwyddiadau bob penwyth-nos, roedd hi’n gwneud synnwyr i ni weithio gyda’r Cyngor i leihau ein gwastraff plastig tra’n bod ni ar yr Ynys, mewn parciau a chyrchfannau glan môr gydol yr haf.”