Ffynhonnau yfed modern i gael eu gosod ledled y Fro
Dros yr wythnosau i ddod, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio i osod ffynhonnau yfed ar safleoedd amrywiol poblogaidd ledled y Fro.
Yn rhan o’r penderfyniad caiff £40,000 ei fuddsoddi yn yr unedau a’r gwaith o’u gosod. Mae hyn o ganlyniad i gais i weld gwelliannau i wasanaethau'r gymuned ac ardaloedd y gymuned.
Mae un o’r mentrau mwyaf wedi cynnwys lleihau’r defnydd o boteli plastig untro, yn benodol dros fisoedd yr haf. Bydd y gorsafoedd llenwi poteli am ddim yn cynnig dewis amgen i brynu dŵr potel, dewis sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd a’r economi.
Mae hefyd yn rhan o welliannau’r Cyngor i fannau agored. Mae llawer o’r ardaloedd wedi’u huwchraddio’n ddiweddar, gyda rhai ohonynt bellach yn cynnig cyfleusterau chwaraeon, campfa a chwarae awyr agored.
Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd y ffynhonnau yn dod â’r lleoedd ynghyd ac yn annog ymwelwyr i yfed digon o ddŵr yn ystod eu gweithgareddau.
Caiff 14 uned eu gosod, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn parau yn y safleoedd canlynol:
-
Y Barri - Parc Canolog, Gerddi’r Cnap, Parc Romilly, Gerddi Gladstone Uchaf, Promenâd Ynys y Barri.
-
Penarth – Parc Sglefrio Newydd Canolfan Hamdden Cogan, Llwybr y Clogwyn, Glan y Môr Penarth.
-
Sain Tathan - Lougher Place.
-
Dinas Powys – The Murch neu Gaeau Chwarae Bryn y Don.
-
Aberogwr – Prif Faes Parcio.
Mae’r ardaloedd wedi’u dewis oherwydd y nifer uchel y bobl sy’n ymweld â nhw.
Yn 2014, cafodd ffynhonnau o’r un fath eu gosod ym Mharc Belle Vue. Nhw oedd y cyntaf o’u math yn y DU, gyda ffynnon â thair lefel a chyfleuster llenwi poteli, mynediad i bobl anabl ac addasiadau i gŵn.
Pum mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r ffynhonnau wedi’u cynnal a’u cadw’n dda ac ystyrir eu bod yn llwyddiant digamsyniol.
Mae’r unedau blaenllaw hyn yn eithriadol wydn a thrwy eu cynnal a’u cadw’n ddiogel disgwylir iddynt bara am 25-30 o flynyddoedd.
Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai: “Dyma fenter wych i sicrhau bod pobl o bob oedran yn yfed digon o ddŵr dros yr haf, yn enwedig mewn ardaloedd lle maent yn cael eu hannog i fod yn actif.
“Byddai’ hawdd anghofio cynnig dŵr glan, cyfleus ac am ddim, ac mae’n braf gweld Cyngor Bro Morgannwg yn braenaru’r tir er mwyn i drigolion fyw bywydau iach ym mhob agwedd.”
Caiff sawl uned eu gosod yn yr wythnosau i ddod ac mae eraill wedi’u cadw ar gyfer projectau a gaiff eu cwblhau’n hwyrach eleni.